Rydym ni’n ymwybodol o gynllun twyll lle mae pobl yn derbyn negeseuon testun sydd yn dweud bod ganddynt Rybudd Talu Cosb, ac mae yna ddolen i dalu yn y neges hefyd.
Cynllun twyll yw hwn, ni fydd Cyngor Wrecsam fyth yn anfon neges destun nac e-bost atoch chi ynglŷn â Rhybudd Talu Cosb.
Dim ond ar ffurf tocyn papur ar eich cerbyd neu lythyr wedi’i gyfeirio at geidwad cofrestredig y cerbyd y byddwch chi’n derbyn Rhybudd Talu Cosb.
Anwybyddwch y negeseuon testun yma a pheidiwch â chlicio ar y ddolen i dalu.Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Byddwch yn wyliadwrus o godau QR ffug ar beiriannau parcio