Bydd Byd Dŵr Wrecsam yn cynnal penwythnos agored ar yr 2il a’r 3ydd o Hydref.
Os nad ydych wedi bod yn un o’n canolfannau hamdden ers tro, bydd y penwythnos hwn yn gyfle i chi weld y cyfleusterau ym Myd Dŵr a chael cyngor a gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael ar draws ein naw safle.
Dros y penwythnos agored bydd mynediad am ddim i’r gampfa, gweithdy technegau codi pwysau, sesiwn flasu hyfforddiant cylch gyda’r Omnia Multi Gym a chynigion aelodaeth flynyddol a misol gwych.
Bydd gennym hefyd gynnig 2 am 1 ar ein holl goffi Costa!
Ers i ni ailagor ym mis Mai rydym wedi gweld nifer calonogol dros ben yn dod yn ôl i’n safleoedd ac rydym yn dal i weld bod y gymuned gyfan eisiau cyfle i fod yn egnïol a chyfarfod pobl newydd.
Mae ein rhaglen Dysgu Nofio yn dal yn boblogaidd iawn gydag unigolion iau a hŷn fel ei gilydd ac er yn boblogaidd mae gennym ychydig o le ar ôl o hyd i ddysgu’r sgil bywyd pwysig hwn.
……ac os ydych rhwng 12 ac 16 oed mae gennym sesiynau campfa am ddim yr holl holl ffordd drwodd at y Nadolig ym Myd Dŵr a Chanolfannau Hamdden y Waun, Gwyn Evans a Queensway. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth.
Dywedodd y Cyng. John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae’n galonogol clywed bod cymaint o bobl yn manteisio ar ein canolfannau hamdden. Gyda’r dyddiau’n byrhau, bydd cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ein canolfannau hamdden yn ffordd wych o gadw’n actif dros y gaeaf.
Meddai Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure “dewch draw i ymuno yn yr hwyl yn ystod penwythnos agored Byd Dŵr. Bydd yno rywbeth i bawb ac mae’n gyfle gwych i’r teulu cyfan fod yn egnïol dros y penwythnos.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN