Mae Wrecsam yn paratoi am benwythnos prysur o weithgareddau ac adloniant gyda thri digwyddiad mawr yn cael eu cynnal dros y penwythnos.
I ddechrau, byddwn yn croesawu pobl o bob cwr o’r DU ac Ewrop yn y ‘Comic Con’ gorau erioed pan mae Comic Con Cymru yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Mae’r digwyddiad hwn sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn yn denu miloedd i ardal Wrecsam – gyda nifer yn gwisgo gwisg ffansi yn arbennig ar gyfer yr achlysur – i gwrdd â’u hoff sêr o’r byd antur, ffuglen wyddonol a chwaraeon.
Mae rhai o’r sawl sy’n gwisgo gwisgoedd ffansi yn edrych yn anhygoel a wirioneddol yn haeddu clod! O Daleks i Batman, byddwch yn dod ar draws popeth!
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae modd i chi gymryd rhan mewn sesiynau cwestiwn ac ateb, cyfarfod a thynnu lluniau gyda’ch hoff gymeriadau a phori drwy’r sawl stondin masnachol sy’n ymddangos ar gyfer Comic Con Cymru.
Mae’n gyfnod gwych ar gyfer busnesau lleol hefyd, oherwydd bod sawl un sy’n dod i’r digwyddiad yn aros yn yr ardal. Amcangyfrifir bod Comic Con yn dod a £1 miliwn i Wrecsam a’r cyffiniau. Mae sawl ymwelydd yn dewis aros am ddwy neu dair noson i werthfawrogi Comic Con a chymryd mantais o beth arall sydd gan Wrecsam i’w gynnig.
Dewch o hyd i bwy fydd yn lle, drwy edrych ar eu gwefan yma https://www.walescomiccon.com cewch chi ddim eich siomi!
Yn ail, mae’n Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, sy’n dod â llawer o bobl i ganol y dref, i wneud y mwyaf o beth sydd gan ein masnachwyr annibynnol i’w gynnig. Maent yn barod am ddigwyddiad enfawr, gyda sawl un yn cynnig cynigion arbennig am y diwrnod.
Mae rhagor o wybodaeth ar y digwyddiad hwn isod:
Yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, bydd CPD Wrecsam yn herio Casnewydd yn ail rownd Cwpan yr FA ar y Cae Ras, gyda’r gic gyntaf am 8pm. Bydd cefnogwyr yn nerfus iawn wrth i’r tîm geisio diogelu eu lle yn y drydedd rownd. Rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw.
Gallwch ddysgu mwy yma.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae Wrecsam ar fin gweld miloedd o ymwelwyr ychwanegol dros y penwythnos gyda canol y dref yn cynnal Dydd Sadwrn Busnesau Bach, Prifysgol Glyndŵr yn cynnal Comic Con – un o’r digwyddiadau mwyaf a gorau yn Ewrop – a Gêm Ail Rownd Cwpan yr FA yn erbyn Casnewydd.”
“Newyddion da i’r economi wrth gwrs, a rheiny yn y sector twristiaeth sy’n dibynnu ar ddigwyddiadau i ddenu tyrfa. Da iawn i bawb sy’n cymryd rhan a phob lwc i bawb ar un o benwythnosau mwyaf Wrecsam ers sawl blwyddyn.”
Rydym yn gobeithio y cewch chi benwythnos gwych a diogel o siopa ac adloniant!
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU