Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Perfformiad ein Polisi Iaith
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Perfformiad ein Polisi Iaith
Y cyngor

Perfformiad ein Polisi Iaith

Diweddarwyd diwethaf: 2020/11/05 at 9:20 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Welsh Language
RHANNU

Ddydd Mawrth bydd gofyn i’r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2019/20 cyn i ni ei gyhoeddi ar y wefan.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi nodi 171 o safonau y dylai Wrecsam eu cyrraedd. Mae’r safonau hyn yn sicrhau ein bod ni’n trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal ac yn parchu hawliau siaradwyr Cymraeg.

Cafodd y safonau eu cyflwyno ym mis Mawrth 2016 ac maen nhw’n rhwymo’r Cyngor mewn cyfraith. Derbyniodd y safonau groeso gan y Cyngor gan eu bod yn ei alluogi i gynyddu darpariaethau gwasanaeth Cymraeg ac yn rhoi hawliau i’r cyhoedd a’r gweithwyr.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r adroddiad yn dangos bod y Cyngor wedi gwneud cynnydd da yn ystod y 12 mis diwethaf ac wedi llwyddo i recriwtio i swyddi lle’r oedd y Gymraeg yn hanfodol a darparu rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau Cymraeg fel Hwb a oedd yn rhan o ddigwyddiadau FOCUS Wales.

Mae cyfraniad Tŷ Pawb at y Gymraeg hefyd wedi’i gydnabod yn yr adroddiad yn dilyn digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi llwyddiannus iawn arall a oedd yn cynnwys gorymdaith i Dŷ Pawb – a thros 3,600 yn bresennol!

Hefyd, heidiodd gannoedd o bobl o bob oed i Dŷ Pawb i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg. Yn ogystal â pherfformiadau byw gwych gan rai o artistiaid gorau Cymru, roedd y diwrnod yn cynnwys corau, perfformiadau theatr, ffilm, sesiynau celf a chrefft i blant a rygbi yn fyw ar y sgrin.

Mae’r holl ddigwyddiadau yn profi bod yna ddiddordeb mawr yn y Gymraeg a diwylliant Cymreig yn ein cymuned, ac mae arnom ni eisiau parhau i adeiladu ar hynny.

Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod heriau ac achosion o fethu cydymffurfio, gydag ymchwiliadau gan Gomisiynydd y Gymraeg a chwynion gan aelodau o’r cyhoedd. Mae’r holl achosion yn derbyn sylw manwl a rhoddir camau unioni ar waith yn ôl yr angen.
Yn ystod y flwyddyn cynhaliwyd 14 ymchwiliad i fethu â chydymffurfio, ac rydym ni’n parhau i sicrhau bod staff yn ymwybodol o bwysigrwydd y safonau er mwyn darparu gwasanaeth hollol ddwyieithog.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol o ran gwella darpariaethau gwasanaeth Cymraeg a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i wneud hynny. Rydym ni’n monitro ein perfformiad yn ofalus ac yn croesawu unrhyw her gan aelodau o’r cyhoedd a’r Comisiynydd oherwydd bod hynny’n golygu bod modd i ni wella pethau ymhellach. Anogir staff ac aelodau o’r cyhoedd i siarad efo ni yn Gymraeg, ac mae yna hefyd fwy o gyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg.

“Dw i’n gobeithio y bydd fy nghydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol yn derbyn yr adroddiad ac yn fodlon ar ein perfformiad yn erbyn y safonau.”

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Road Popp Gosod marciau pabi o amgylch Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Erthygl nesaf Trevor Basin Uwchgynllun Technegol Basn Trefor

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Pwerdy diwydiannau creadigol yn agor cyn bo hir yn yr Hen Lyfrgell

Gorffennaf 24, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English