Bydd comedïwr Cymraeg sydd wedi ennill gwobrau am ei berfformiadau yn cymryd y llwyfan mewn digwyddiad diwylliant a cherddoriaeth Cymraeg y flwyddyn nesaf.
Bydd y comedïwr Tudur Owen yn arwain perfformiad comedi dwyieithog newydd sbon yn HWB Cymraeg ar ddydd Gwener, 11 Mai fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau Cymraeg gan FOCUS Wales.
Mae’r Marathon – a elwir yn Marathon Comedi Tudur Owen – yn cynnwys nifer o gomediwyr byw gan gynnwys perfformiad dwyieithog gan Tudur ei hun.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae Tudur, a fydd yn darlledu ei raglen ar Radio Cymru yn fyw o HWB Cymraeg ar y dydd, wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau comedi yn y Gymraeg ar gyfer teledu, radio a theatr ac wedi dod yn gymeriad enwog gyda’i sioe ar BBC Radio Cymru.
Cychwynnodd ei yrfa yn 1999 a mae o bellach yn un o brif dalentau comedi Cymru gyda rhes o sioeau wedi gwerthu allan yn yr Edinburgh Fringe Festival yn ogystal â gyrfa ysgrifennu a darlledu trawiadol iawn.
Er bod Tudur yn enwog am ei gomedi Cymraeg, mi fydd y sioe yn ddwyieithog, ac yn hwyl i bawb beth bynnag yw eich gallu yn y Gymraeg.
Y Marathon Comedi fydd un o nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn HWB Cymraeg – elfen newydd o FOCUS Wales sydd gyda’r bwriad o hyrwyddo cerddorion, artistiaid, comediwyr a pherfformwyr eraill yn y Gymraeg.
Bydd pabell HWB Cymraeg ar Sgwâr y Frenhines yn llawn o berfformiadau cerddorol, sgyrsiau, gweithdai, gweithgareddau, bwyd a diod trwy gydol Gŵyl FOCUS Wales a fydd yn rhedeg o 10 Mai tan 12 Mai 2018.
Cynhelir HWB Cymraeg gan FOCUS Wales mewn partneriaeth â Chyngor Wrecsam.
Meddai Stephen Jones, Cydlynydd y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Gwyddwn fod Tudur yn berfformiwr comedi enwog iawn yng Nghymru a thu hwnt, ac roeddem o’r farn y byddai’n berffaith ar gyfer HWB Cymraeg, y nod yw hyrwyddo a meithrin celfyddydau, diwylliant ac adloniant yr iaith Gymraeg.
“Rydym yn edrych ymlaen at Farathon Comedi Tudur ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg ac mewn comedi i fynychu.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal HWB Cymraeg ac mae wedi cyflwyno tomen o ddigwyddiadau Cymraeg i FOCUS Wales.
“Cafwyd blwyddyn agoriadol hynod lwyddiannus ac rydym yn gobeithio cael cynulleidfa fawr ac ymateb da unwaith eto eleni er mwyn gwneud yn siŵr bod blwyddyn nesaf yn hyd yn oed gwell.”
Meddai Neal Thompson, cyd-sylfaenydd FOCUS Wales: “Rydym yn falch iawn o gael ymrwymiad Tudur Owen.
“Rydym yn gwneud llawer i helpu i gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg newydd ac rwy’n falch ein bod yn gweithio gyda Tudur i wneud yr un peth ar gyfer comedi byw Cymraeg.”
Tocynnau i Marathon Comedi Tudur Owen yn £8 yr un ac ar werth rŵan ar www.focuswales.com/tocynnau/.
Caiff FOCUS Wales ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.