Mae plant ledled Wrecsam yn mwynhau mwy o gyfleoedd i ddysgu offerynnau cerdd y tymor hwn
Aeth y Cynghorydd Phil Wynn i Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro yn ddiweddar i weld sut mae disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael y cyfle i ddysgu offerynnau yn amrywio o’r corned i’r ffidl.
Darperir y gwersi gan gwmni Cerdd Cydweithredol Wrecsam gydag arian gan Gyngor Wrecsam.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
“Syfrdanol”
Meddai’r Cynghorydd Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg:
“Mae’n wych gweld y plant yn elwa gymaint o gerddoriaeth
“Yn dilyn yr holl heriau mae’r cyfnod clo wedi ei gyflwyno i ysgolion dros y deunaw mis diwethaf, mae’n braf gwybod bod y mwyafrif o ddisgyblion bellach wedi dychwelyd.
“Mae’r heriau hyn yn cynnwys lles disgyblion a pha ffordd well o ymlacio na dysgu chwarae offeryn cerdd?
“Mae’r diddordeb gan bob ysgol wedi bod yn syfrdanol, gyda dros 550 o ddisgyblion yn cofrestru i gymryd mantais o’r bwrsari cerdd sydd ar gael gan y cyngor.
“Mae hyn yn cynrychioli dwbl nifer y disgyblion cyn y pandemig, felly rydym wedi cynyddu’r bwrsari i sicrhau nad oes unrhyw un yn siomedig.”
Pŵer cerddoriaeth
Dywedodd Heather Powell o gwmni Cerdd Cydweithredol Wrecsam:
“Rydym wrth ein boddau i barhau i weithio gyda Chyngor Wrecsam i ddarparu gwersi cerdd i’n dysgwyr prydau ysgol am ddim.
“Mae pŵer cerdd o ran lles, rhifedd, llythrennedd a hyder disgyblion bob amser yn amlwg ac edrychwn ymlaen at wylio’r disgyblion hyn yn datblygu.”
Dywedodd Mrs K Owen Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymunedol Gwenfro:
“Mae gennym 23 o ddisgyblion prydau ysgol am ddim yn cael gwersi y flwyddyn academaidd hon, sy’n llawer uwch na’r llynedd oherwydd mwy o arian gan y cyngor.
“Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd a dysgu offeryn cerdd mor bwysig yn natblygiad creadigol plentyn. Mae hefyd yn cefnogi ein hagwedd at les disgyblion a datblygu dysgwyr hyderus a chreadigol.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL