Mae Senedd yr Ifanc (Senedd yr Ifanc Wrecsam) yn parhau i weithio’n galed i herio’r materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.
Maent am fynd i’r afael â’r pethau sy’n bwysig i chi, eich grwpiau ac ysgolion.
Eisiau cymryd rhan? Dyma eich cyfle – drwy gwblhau’r holiaduron hyn.
Effeithiau bwlio
Mae bwlio o bob math yn annerbyniol…mae’r Senedd yn awyddus i ddeall mwy am yr effeithiau y mae’n ei gael ar bobl ifanc. Gallwch wneud hyn drwy roi gwybod iddynt am eich profiadau eich hun.
Fis diwethaf, fe wnaethom roi gwybod am eu hymgynghoriad ar effeithiau bwlio. Mae amser o hyd i gymryd rhan!
Mae’r holiadur ar-lein yn fyw nes 16 Tachwedd.
Felly, os ydych chi rhwng 11 a 25 mlwydd oed, maent yn awyddus clywed gennych.
Gwych … Ddangoswch y arolwg
Ein lles
Nawr, maent yn dymuno clywed gan bobl rhwng 11 a 18 mlwydd oed.
Estynnir gwahoddiad i chi rannu eich barn ar ddatblygu patrymau cysgu da i gefnogi cychwyn iach a chorfforol egnïol mewn bywyd.
Mae hyn ar ffurf holiadur, felly cymerwch ran!
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ifanc Wrecsam rannu eu barn a chyfrannu at Gynllun Lles y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus 2018-23.
Bydd yr arolwg yn fyw nes 14 Rhagfyr.
Mae Caroline Bennett, Cydgysylltydd Cyfranogiad yn dweud pam y dylech gymryd rhan:
“Mae Senedd yr Ifanc yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan yn y materion a gyflwynir i ni gan bobl ifanc.
Gall ein pobl ifanc ein helpu i ddeall mwy am fwlio drwy gwblhau’r ddau holiadur a chael cyfle i ddweud eu dweud.”
I gwblhau’r arolwg, cliciwch y ddolen isod.
Mae copïau papur o’r arolygon ar gael ar gais.
Gwych … Ddangoswch y arolwg Na… Dw i’n iawn ddiolch