Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022, bydd y Bwrdd Gweithredol yn cael adroddiad ar gynnydd y cynlluniau cyffrous ar gyfer Porth Wrecsam.
Bydd prosiect Porth Wrecsam, sydd werth miliynau, yn gweld adfywiad o goridor Ffordd yr Wyddgrug – gan greu cludiant bws a rheilffordd well, bydd y llwybr i mewn i ganol y dref yn creu argraff gyntaf gwych i ymwelwyr a lleoliad digwyddiadau gwell ar y cae pêl-droed a lleoliad rhanbarthol a chenedlaethol yn stadiwm y Cae Ras.
Mae’r partneriaid yn cynnwys ni ein hunain, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trafnidiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Gan fod nifer o gymhlethdodau i’r bartneriaeth a sensitifrwydd masnachol unigol, a diddordeb gan nad yw’r Cyngor yn rhan, mae’r adroddiad yn gyfrinachol. Ond rydym yn awyddus i rannu diweddariad i’r cyhoedd ar gynnydd y Prosiect.
Mae’r Uwchgynllun yn nodi cyfanswm o fuddsoddiadau sydd oddeutu £80-£90 miliwn gydag amcangyfrif o gymorthdaliadau’r sector cyhoeddus rhwng £40 a £45 miliwn.
Mae cyllid o £25 miliwn wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ochr ddwyreiniol o’r safle i ddatblygu’r safle o amgylch Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, gan gynnwys datblygiad masnachol a diweddariadau i’r mannau dinesig ac amwynder.
Gobeithir bellach y bydd ail gynnig i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraethau’r DU yn ddiweddarach eleni yn sicrhau cyllid ar gyfer yr ochr orllewinol – y Cae Ras – i sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y clwb bêl-droed yn y dyfodol yn ogystal â sicrhau ei fod o safon i gynnal gemau rhyngwladol. Bydd y cyllid hefyd yn cynnwys cynigion i ddatblygu’r meysydd o amgylch y cae ar gyfer profiad digwyddiad gwell.
Mae’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r camau nesaf ac yn sicrhau bod y cynnig yr ail rownd yn dangos yr adfywiad diwylliannol unigryw’r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd a chyflenwi’r prosiect.
Mae’r Cyngor a’r partneriaid wedi ymrwymo i ariannu gwariant buan ar elfennau allweddol o’r gwaith sydd yn galluogi i gyflawni’r cynnig. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rannu ar hyn pan maent yn cael eu datblygu a’u cymeradwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor ar ran Partneriaid Porth Wrecsam “Bydd y penderfyniadau yn y Bwrdd Gweithredol yn caniatáu cynnydd y gwaith ar ochr orllewinol Porth Wrecsam a fydd yn gwella cyflenwad y prosiect i gynigion am gyllid.
“Mae’n wych gweld ymrwymiad gan yr holl bartneriaid yn arbennig Clwb Bêl-droed Wrecsam ar y camau nesaf ac ymrwymiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddyfodol pêl-droed cystadleuol rhyngwladol.”
Dywedodd Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed “Mae’r Gymdeithas wedi cyffroi i fod yn rhan swyddogol o’r prosiect a byddwn yn gweithio gyda’r partneriaid i sicrhau bod y cyfleusterau yn cael eu gwella i gyrraedd y safon, fel y gallwn yn rheolaidd ddod â phêl-droed rhyngwladol timau dynion, merched ac ieuenctid i’r Cae Ras.”
Dywedodd Humphrey Ker, Cyfarwyddwr Gweithredol ar ran Clwb Bêl-droed Wrecsam “Mae datganiad cenhadaeth y Clwb yn amlwg ein bod eisiau gwella’r Cae Ras i gyrraedd safon lle gallwn gynnal Gemau/ Digwyddiadau Rhyngwladol yn rheolaidd er budd Clwb Bêl-droed Wrecsam a chyhoedd Gogledd Cymru sydd yn mwynhau chwaraeon.
“Mae gan y bartneriaeth hon gyfle i droi’r uchelgais hwn yn realiti, a rydym wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn i gyflawni hyn.”
Dywedodd Sarah Atherton, AS “Rwyf yn falch iawn o gynnydd sydd yn digwydd ar Brosiect Porth Wrecsam, sydd yn hanfodol i Wrecsam a bydd hyn yn cael ei groesawu gan bawb ledled y dref.
“Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod cymunedau o amgylch y wlad gyda’r cyfle i newid a thyfu, a byddaf yn chwarae’r drwm yn San Steffan i wneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn cael y cyllid mae’n ei haeddu.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL