Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Profiad o weithio â phobl sydd angen cymorth? Profiad o reoli? Edrychwch ar y swydd hon…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Profiad o weithio â phobl sydd angen cymorth? Profiad o reoli? Edrychwch ar y swydd hon…
Busnes ac addysgY cyngor

Profiad o weithio â phobl sydd angen cymorth? Profiad o reoli? Edrychwch ar y swydd hon…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 4, 2018 10:58 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Community Living Service Job
RHANNU

Mae gennym wasanaeth cymorth rhagorol sydd ar hyn o bryd yn chwilio am Reolwr Cynorthwyol.

Cynnwys
  • Ynglŷn â’n Gwasanaeth
  • Ai chi yw’r un ar gyfer y swydd?

Bydd arnoch angen angerdd, cymhelliant, profiad a digon o fynd ynoch… ac os oes gennych bob un o’r nodweddion hyn, gallech fod yn llwyddiannus iawn yn y swydd wych hon.

Ydych chi eisiau gwybod mwy? Darllenwch ymlaen…

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Ynglŷn â’n Gwasanaeth

Mae ein Gwasanaeth Byw yn y Gymuned yn gweithio â phobl sydd ag anableddau ac anghenion cymorth arbenigol. Y bobl hyn sydd wrth wraidd ein gwaith, ac rydym yn sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud ym mhob penderfyniad a wneir am eu bywydau.

Rydym yn cynnig dewisiadau a chyfleoedd i bobl fel eu bod yn iach, yn ddiogel ac yn gallu byw mor annibynnol â phosibl … mae ein gwaith yn wirioneddol bwysig i ni.

Rydym yn rhan o’r Gwasanaeth Anableddau ac wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

A bellach, mae arnom angen Rheolwr Cynorthwyol i’n helpu i reoli gweithredoedd dydd i ddydd. Bydd yr unigolyn yma hefyd yn cyfrannu at ddatblygu ein gwasanaeth.

Ai chi yw’r un ar gyfer y swydd?

Bydd angen i chi feddu ar sgiliau arwain a rheoli da. Byddwch hefyd yn gyfathrebwr gwych, yn gallu gweithio fel rhan o dîm gyda phrofiad o weithio gydag oedolion diamddiffyn.

Bydd angen i chi feddu ar ddiploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (lefel 5), neu ddiploma FfCCh neu NVQ lefel 3 ac yn barod i ennill lefel 5 o fewn amser penodedig.

Bydd arnoch angen rhai sgiliau eraill hefyd, gellir dod o hyd i’r rhain yn y disgrifiad swydd llawn. Ond os ydych wedi meistroli’r sgiliau yr ydym wedi eu crybwyll uchod, yn sicr dylech gael golwg arno.

A sbïwch ar hyn. Gall gweithio i’r cyngor fod yn ddewis gyrfaol da – mae fel arfer yn cynnwys pensiwn, lwfans gwyliau da, sefydlogrwydd cymharol a hyblygrwydd.

Swnio’n dda?

Os oes arnoch angen ychydig o wybodaeth bellach, gallwch gysylltu â Kim Thomas am sgwrs anffurfiol ar 01978 298535.

I weld y disgrifiad swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod os gwelwch yn dda.

Ond peidiwch â bod yn rhy hir … y dyddiad cau yw 12 Hydref.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=B3713C17-017C-98B7-039C31DB14EBB332″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid? Gwasanaethau Anableddau – sut gallai pethau newid?
Erthygl nesaf Ffioedd clybiau brecwast ysgolion Ffioedd clybiau brecwast ysgolion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English