Cawsom ein hatgoffa nifer o weithiau eleni am bwysigrwydd dilyn rheolau cynllunio, wrth i dirfeddianwyr a phobl busnes leol gael dirwyon yn y llys am anwybyddu Rhybuddion Gorfodi.
Beth yw Rhybuddion Gorfodi Cynllunio?
Dogfennau cyfreithiol sy’n cael eu hanfon pan fydd datblygiad wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio neu pan fydd datblygiad wedi digwydd sy’n gwyro oddi wrth y caniatâd cynllunio a roddwyd. Mae’n ofynnol i’r tor-amodau gael eu cywiro.
Felly beth sydd wedi digwydd yn Wrecsam?
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae miloedd o bunnau wedi cael eu talu mewn dirwyon a ffioedd gan dirfeddianwyr lleol. Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydymffurfio â rheolau cynllunio a Rhybuddion Gorfodi.
Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy, talodd tirfeddiannwr o Goed Llwyneinion gyfanswm o £744 ar ôl rhoi adeiladau ar dir heb ganiatâd a chreu mynediad ato o ffordd ddi-ddosbarth heb awdurdod. Yng Nghoed Llannerch Banna, roedd busnes yn cael ei redeg o’r coetir a chyhoeddwyd Rhybuddion Gorfodi, ond ni chydymffurfiwyd â nhw, a chafodd perchennog y busnes orchymyn i dalu cyfanswm o £1160.
Rhoddwyd y ddirwy fwyaf i berchennog fferm yn Wrecsam ar ôl i ddarn o lawr caled gael ei osod heb ganiatâd cynllunio. Roedd y tirfeddiannwr hefyd yn cadw cerbydau heb fod yn rhai amaethyddol ar dir amaethyddol. Arweiniodd hyn at ddirwy o £2282.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Terry Evans: “Rydym yn cymryd methu â chydymffurfio â rheolau cynllunio a Rhybuddion Gorfodi o ddifri.
“Dylai tirfeddianwyr weithio’n agos gyda’n Swyddogion Cynllunio cyn gwneud unrhyw waith datblygu i wneud yn siŵr eu bod yn aros o fewn y rheolau, sydd yno i amddiffyn y Fwrdeistref Sirol a’i phreswylwyr.”
Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog Cynllunio a’r Economi yng Nghyngor Wrecsam: “Mae rheoliadau cynllunio yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd a’n cymunedau ac rydym yn cymryd achosion o’u torri o ddifri. Ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn, pan fo’n briodol gwneud hynny.
“Byddwn yn argymell yn gryf bod tirfeddianwyr yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu. Gall y tîm eich cynghori os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect.”
Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y cyngor.
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.