Mae Tŷ Pawb, cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd a chyffrous Wrecsam wedi derbyn llawer o ymwelwyr yn ddiweddar wrth i’r gwaith adeiladu ddod i ben, ac ymwelodd Arweinydd Cyngor a’r safle hefyd i gael golwg ar y gwaith. Ymunodd yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi, Cyng. Terry Evans, a’r Pennaeth Ysgol Celfyddydau Creadigol Glyndŵr, yr Athro Alec Shepley.
“Ar agor ar amser ac o fewn y gyllideb”
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Gwnaeth cryn argraff arnaf bod y gwaith wedi mynd mor dda a bod yr hen neuadd farchnad mor wahanol. Rwy’n amau y bydd llawer mwy yn synnu o weld y trawsnewidiad pan fydd yn cael ei ddatgelu yn yr agoriad swyddogol ar 2 Ebrill. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff a chontractwyr am eu gwaith caled wrth sicrhau y bydd y cyfleuster ar agor ar amser ac o fewn y gyllideb”
“Prosiect Gwych a Thrawiadol Iawn”
Dywedodd yr Athro Shepley: “Mae hwn yn brosiect gwych a thrawiadol ac rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r “sgwrs greadigol” yn Wrecsam gyda’n cyfeillion yn Tŷ Pawb.”
Mae’r datblygiad £4.5 miliwn wedi ei gefnogi gan arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a Chyngor Wrecsam. Y contractwyr Wynne Construction sydd wedi ymgymryd â’r gwaith.
“Diwrnod Gwych i’r Teulu”
Bydd yr agoriad yn cael ei nodi gyda dathliad arbennig iawn – Dydd Llun Pawb – sy’n cael ei drefnu gan FFOCWS Cymru ac mae’n addo bod yn ddiwrnod gwych gyda fflotau, tân gwyllt a digon o adloniant i bawb.
Mae’n dechrau gyda gorymdaith enfawr gyda sefydliadau ieuenctid, cymunedol ac elusennol o’r rhanbarth dan arweiniad y band pres o Ogledd Cymru “Band Pres Llareggub”. Bydd yr orymdaith yn cyfarfod yn Stryd yr Hôb a’r Stryd Fawr, yn mynd heibio’r farchnad dydd Llun i sgwâr y Frenhines a Thŷ Pawb lle bydd y dathliadau yn parhau.
Bydd Ffordd Caer hefyd yn rhan o’r dathliadau am y dydd a bydd stondinau ffair, a digon o stondinau celf, crefft, bwyd a diod. Bydd lle chwarae i’r plant a cherddoriaeth fyw i bawb ei mwynhau.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen:
Ydych chi awydd masnachu yn Tŷ Pawb?
Cyhoeddi Arddangosfa Gelf Gyntaf Tŷ Pawb
Hudoliaeth Golau’r Hippodrome Yn Dod I Tŷ Pawb
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT