Rydym yn gwybod pa mor hawdd yw anghofio a cholli casgliad biniau neu wastraff ailgylchu.
Felly sicrhewch eich bod yn lawrlwytho’r calendr newydd i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am eich dyddiau casglu.
Mae’r calendr casgliad sbwriel ac ailgylchu newydd 2018/19 ar gael ar-lein er mwyn i breswylwyr eu lawrlwytho.
Ni fydd fersiynau newydd o’r calendr yn cael eu hanfon drwy’r post – felly os ydych am gadw llygad ar y dyddiadau, sicrhewch eich bod yn cofrestru i gael y calendr digidol.
Nid oes newidiadau i’ch dyddiad casglu eleni – ac eithrio o amgylch tymor y Nadolig, gyda phreswylwyr yn arbennig yn cael eu cynghori i gadw llygad barcud ar newidiadau o Ddydd Mawrth Rhagfyr 25, 2018 i ddydd Sadwrn, Ionawr 12, 2019.
Bydd casgliadau gwastraff gardd y bin gwyrdd yn rhedeg yn fisol o fis Rhagfyr, 2018 i fis Chwefror 2019, gyda chasgliadau arferol bob pythefnos yn ailgychwyn ym mis Mawrth. Bydd preswylwyr sydd wedi talu ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd ychwanegol yn derbyn llythyr yn y man yn hysbysu o’r newidiadau.
Bydd pob casgliad deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd arall yn parhau i fod yn wythnosol.
“Dim ond 5 munud”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gan fod nifer gynyddol o bobl Wrecsam bellach ar-lein, drwy ffonau clyfar a thabledi, rydym am wneud yn siŵr fod preswylwyr yn ymwybodol y gallant nawr gael eu calendr gwastraff ac ailgylchu ar-lein.
“Mae’n syml ac ni fydd yn cymryd pum munud o’ch amser, ond gall arbed preswylwyr rhag colli casgliadau biniau.”
Sut ydw i’n mynd ati i gael fy nghalendr?
I lawrlwytho neu argraffu eich calendr cliciwch yma a theipiwch eich cod post.
Unwaith mae eich cod post wedi ei deipio, cliciwch ar eich eiddo a bydd y system yn dangos eich diwrnod casglu perthnasol a’r calendr – bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi un ai argraffu’r calendr neu ei arbed.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD