Mae yno wastad bethau mae angen mynd i’r afael â nhw’n sydyn – ond weithiau, rydyn ni’n brysur yn cynllunio at y dyfodol ac yn anghofio canolbwyntio ar beth sy’n digwydd ar hyn o bryd.
Bellach wedi newid o’r enw gwreiddiol ‘Baggy Space’, mae Tŷ Pawb yn cyflwyno cyfres barhaus o wahanol weithgarwch amhenodol dan teitl ‘Ar frys’. Bydd y gyfres hon yn ymateb i bryderon ein cymuned ar hyn o bryd, yn ddefnyddwyr Tŷ Pawb a thu hwnt.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Pen-blwydd carreg filltir ar gyfer gofod celf poblogaidd Wrecsam
Mae’r cyntaf yn y gyfres hon yn cael ei gyflwyno i Ofod Celf UnDegUn, i gydnabod a dathlu’r rôl hanfodol sydd gan UnDegUn yn sîn ddiwylliannol Wrecsam. Ym mis Gorffennaf, bydd UnDegUn wedi bod ar waith am 5 mlynedd – oes dda i brosiect ‘dros dro’.
Wedi’i sefydlu yn 2013 mewn siop chwaraeon wag ar Stryt y Rhaglaw, gyda chefnogaeth elusen o Leeds, East Street Arts, mae UnDegUn yn cynnig stiwdios i nifer o arlunwyr lleol yn ogystal â mannau i arddangos a pherfformio’u gwaith. Mae’r gofodau mwy’n cael eu defnyddio’n aml gan grwpiau cymunedol lleol poblogaidd fel ‘Girls Who Make a ‘Voicebox’.
Mae Undegun yn dod i Tŷ Pawb
Ar gyfer yr wythnos maen nhw yno, bydd UnDegUn yn arddangos aelodau eu stiwdio yn ogystal â nifer o grwpiau cymunedol sy’n defnyddio eu gofod. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal bob dydd i bawb gymryd rhan ynddynt.
Yn ogystal â dathlu eu pum mlynedd gyntaf o weithgarwch, mae’r gofod yn ymrwymo i gynrychioli dymuniadau cymuned gelfyddydol Wrecsam i fedru cefnogi ei gilydd yn y ffyrdd mwyaf effeithiol posib.
Dywedodd Jo Marsh, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb ac Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae UnDegUn yn glod i Wrecsam ac yn dangos y gymuned greadigol sy’n datblygu’n gyflym yn ein tref. Drwy gynnig platfform i’r sefydliad a’i ddefnyddwyr i arddangos eu gwaith, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i ymweld â nhw ac annog mwy i greu eu prosiectau tebyg eu hunain hefyd.”
Beth i edrych allan am yr wythnos hon
Bydd Undegun yn cynnal nifer o weithgareddau rheolaidd yn Nhŷ Pawb yr wythnos hon, gan gynnwys:
- Dydd Mercher 6.30pm-7.30pm – ‘Girls Who Make’ – Sefydliad a digwyddiad misol a sefydlwyd i gefnogi creadigiaid lleol benywaidd. Croeso i bob math o wneuthurwyr yn y digwyddiad hwn am ddim! Dewch draw i gwrdd â merched tebyg i chi!
- Dydd Iau 2pm-4pm – ‘Sgwrs – Sut allwn ni gefnogi ei gilydd?’ – Trafodaeth agored i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl o’r gwahanol gymunedau creadigol yn Wrecsam i helpu ei gilydd i wneud gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau.
- Dydd Gwener 6pm – Voicebox yn Tŷ Pawb – Wrth i chi lenwi’r gofod UnDegUn dros dro, mae Voicebox yn edrych i ychwanegu rhywfaint o sain i’r lleoliad-
6.10-6.30 Nathaniel Ramsey
6.40-7.00 Lianne Futia
7.10-7.30 Ben Wilson
7.40-8.00 Joey Vanzetti
Ewch i wefan Tŷ Pawb yma.
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN