Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pwyllwch! Sut i basio ceffylau’n ddiogel ar y ffyrdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pwyllwch! Sut i basio ceffylau’n ddiogel ar y ffyrdd
Pobl a lle

Pwyllwch! Sut i basio ceffylau’n ddiogel ar y ffyrdd

Diweddarwyd diwethaf: Awst 12, 2019 2:47 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Horse Riders
RHANNU

Erthygl Gwestai gan IAM RoadSmart

Cynnwys
  • “Os ydych chi’n cwrdd â cheffyl o’i du cefn:”
  • “Os oes ceffyl yn agosáu ar ochr arall y ffordd:”

Efallai y gwelwch chi rhagor o geffylau ar y ffyrdd yn ystod misoedd yr haf, a byddant yn fwy tebygol ar hyd lonydd gwledig. Dyma awgrymiadau IAM RoadSmart ar sut i basio ceffyl yn ddiogel ar hyd y ffyrdd.

Mae ceffylau yn anifeiliaid pwerus, gyda synhwyrau cryf. Maent yn anifeiliaid ‘ffoi’ hefyd, os oes ganddynt ofn, byddant yn dychwelyd at eu greddfau naturiol.

Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi adrodd bod bron i ddau geffyl yn cael eu lladd bob wythnos ar ffyrdd Prydain. Llynedd, lladdwyd 87 ceffyl a 4 unigolyn.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

“Os ydych chi’n cwrdd â cheffyl o’i du cefn:”

  • Arafwch a phwyllwch. Bydd y marchog yn nodi a yw’n ddiogel dynesu a goddiweddyd. Os nad ydynt, sicrhewch eich bod yn cadw pellter o hyd 3 car oddi wrthynt, a byddwch yn ofalus nad ydych yn symud i’r gofod hwn. Byddwch yn barod i arafu ymhellach neu dod i stop hyd yn oed, i’ch diogelu chi, yn ogystal â’r ceffyl a’r marchog. Osgowch unrhyw symudiadau sydyn a synau uchel megis refio’r injan a chwarae cerddoriaeth uchel.
  • Bydd y rhan fwyaf o farchogion, yn ogystal â’u ceffylau o bryd i’w gilydd, yn gwisgo siacedi llachar, felly dylai eich bod yn eu gweld mewn da bryd i arafu. Cofiwch, yng nghefn gwlad gallent fod rownd unrhyw gornel.
  • Wrth basio’r ceffyl a’r marchog, sicrhewch eich bod yn gadael digon o le. Rydym yn argymell lled un car, a sicrhewch eich bod yn gwneud hynny’n araf. Cofiwch basio’n “araf ac yn llydan” a glynwch at 15mya neu lai. Cymerwch gip ar y fideo hwn gan Gymdeithas Ceffylau Prydain, sy’n esbonio:
    https://www.youtube.com/watch?v=VJfZM41oUOE
  • Os ydych chi’n gyrru ar hyd ffordd wledig, ac nid oes digon o le i basio’r ceffyl, efallai y bydd y marchog yn penderfynu trotian i’r man pasio neu’r llain las agosaf. Peidiwch â chyflymu i gyd-fynd â’r trotian, cadwch eich pellter a chaniatáu i’r marchog ddod i stop mewn man diogel cyn goddiweddyd.
  • Yn aml, pan rydych yn gweld dau farchog, mae hyn am resymau diogelwch. Gall hwn fod yn farchog amhrofiadol neu’n anifail nerfus sy’n cael ei hyfforddi, gyda chyfaill mwy profiadol. Rhowch ystyriaeth iddynt.
  • Cadwch lygad ar y marchog. Byddant yn aml yn rhoi arwydd i ofyn eich bod yn arafu, yn dod i stop neu’n goddiweddyd. Byddant yn cydnabod eich bod chi yno, ac yn eich cynorthwyo i basio, ond eu prif flaenoriaeth yw diogelu eu hunain a’r ceffyl, felly byddant yn ceisio cadw eu dwylo ar y ffrwyn bob amser.
  • Cyflymwch yn raddol i basio’r ceffyl, ac yna pan rydych yn gyrru i ffwrdd. Efallai bod y marchog a’r ceffyl yn amhrofiadol ac yn nerfus mewn traffig; gwnewch eich rhan i’w cadw’n ddiogel.
  • Os oes lleiniau glas, bydd sawl marchog yn dewis symud eu hunain i fyny arnynt i’ch caniatáu i basio. Parhewch i basion araf, oherwydd gall sŵn eich injan ddychryn y ceffyl.

“Os oes ceffyl yn agosáu ar ochr arall y ffordd:”

• Arafwch yn sylweddol, ac ystyriwch droi eich goleuadau rhybudd ymlaen i unrhyw sy’n gyrru tu ôl i chi. Efallai bydd gofyn i chi ddod i stop i ganiatáu’r ceffyl eich pasio, os yw’n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd y marchog, a chyfarwyddwr gweithredol cynnwys digidol IAM RoadSmart, Jaimi Ilravey: “Parhewch i fod yn ofalus wrth yrru’n agos i geffylau. O brofiad personol, nid car yn unig all ddychryn ceffyl. Efallai eich bod yn gyrru’n ddiogel gyda digon o le rhyngoch chi, a’r ceffyl a’r marchog, ond gall rhywbeth arall godi ofn arnynt, felly byddwch yn wyliadwrus.”

Os ydych chi’n gweld digwyddiad sy’n cynnwys ceffyl a marchog, cysylltwch â’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth. Mae modd i chi adrodd digwyddiad ar y wefan hefyd: https://www.bhs.org.uk/our-work/safety/report-an-incident

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hanes Teulu i Ddechreuwyr Hanes Teulu i Ddechreuwyr
Erthygl nesaf Recycling Tub Plastic A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #3

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English