Bob dydd, mae 55,000 o deuluoedd maeth ar draws y DU yn rhoi cartref cariadus, diogel a sefydlog i 65,000 o blant a phobl ifanc sydd wedi’u maethu, ac mae’r ymrwymiad hwn gan deuluoedd maeth yn parhau yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Mae elusen faethu blaenllaw y DU, Y Rhwydwaith Maethu, yn defnyddio Pythefnos Gofal Maeth eleni i godi ymwybyddiaeth o ymroddiad a gwaith arbennig gofalwyr maeth ar hyn o bryd, wrth alw ar ragor i bobl i ddechrau maethu.
Ymgyrch yr elusen i godi proffil gofalwyr maeth a’r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae mewn cymdeithas yw’r mwyaf o’i math yn y DU ac mae’n rhedeg rhwng 11 a 24 Mai.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Mae gofalwyr maeth yn cyflawni pethau hynod bob dydd, hyd yn oed yn wyneb argyfwng byd-eang sydd wedi effeithio ar bob un ohonom ac wedi effeithio ar bob agwedd ar ein cymdeithas. Er gwaethaf yr heriau ymarferol ac emosiynol mae’r coronafeirws yn eu cyflwyno, mae gofalwyr maeth yn parhau i ddarparu cefnogaeth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc na allant fyw gyda’u teuluoedd biolegol.
Maen nhw’n cefnogi addysg, iechyd a lles cymdeithasol plant a phobl ifanc, a helpu i gynnal perthynas y plant gyda’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw ond na allant eu gweld yn bersonol ar hyn o bryd.
Bob dydd, mae angen miloedd o ofalwyr maeth ychwanegol ar draws y DU i sicrhau bod modd i blant sydd wedi’u maethu fyw gyda’r gofalwr maeth sy’n iawn iddyn nhw. Er gwaethaf y coronafeirws, nid yw eleni ddim gwahanol, felly anogir unrhyw un sy’n credu y gallant fod â’r sgiliau a’r profiad i fod yn ofalwr maeth i gysylltu â’u gwasanaethau maethu lleol.
Ar hyn o bryd mae 120 o deuluoedd maeth yn gofalu am 149 o blant yn Wrecsam ond mae angen i ragor o deuluoedd ddechrau maethu. Hyd yn oed yn yr amgylchiadau presennol, rydym yn dal i recriwtio gofalwyr maeth, gan ddefnyddio dulliau digidol, a chyfarfod yn rhithwir gyda’r panel i drafod ceisiadau.
Dywedodd y Cyng Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc yn ogystal â bywydau’r gofalwyr maeth a’u teuluoedd. Ni fu hyn erioed mor bwysig. Mae gofalwyr maeth yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a chyflawni eu potensial, a hefyd darparu gwasanaeth hanfodol i’n cymdeithas. Oherwydd bod hyn yn digwydd yn bennaf ym mhreifatrwydd eu cartrefi eu hunain – yn enwedig ar hyn o bryd – mae eu cyfraniadau yn mynd heb sylw yn rhy aml.”
“Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle gwych i ddathlu gwaith gofalwyr maeth a’u teuluoedd yn ogystal â chydnabod pa mor drawsffurfiol gall gofal maeth fod i’r plant a’r bobl ifanc sydd ei angen.”
I weld sut gallwch chi gefnogi Pythefnos Gofal Maeth, ewch i: thefosteringnetwork.org.uk/fcf20.
I gael gwybodaeth am fod yn ofalwr maeth yn Wrecsam, e-bost: fostering@wrexham.gov.uk
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19