Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd yn barod ar gyfer mis Medi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd yn barod ar gyfer mis Medi
Y cyngor

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd yn barod ar gyfer mis Medi

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 24, 2023 9:29 am
Rhannu
Darllen 5 funud
green bin
RHANNU

Mae hi’n amser hynny o’r flwyddyn eto… gall breswylwyr dalu am gasgliad o’u gwastraff gardd o fis Medi 2023 tan Awst 2024.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein ble’n bosibl
  • Sticeri newydd ar gyfer 2023/24
  • Dim taliadau arian parod na sieciau
  • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
  • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Mae adnewyddu ar gyfer y flwyddyn gwasanaeth nesaf ar agor, ewch i wrexham.gov.uk/gwastraffgardd i wneud eich taliadau ar-lein. Dyma’r ffordd fwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi.  Sicrhewch eich bod wedi cofrestru mewn digon o amser i osgoi methu unrhyw gasgliadau pan fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Medi.

Mae’r ffi ar gyfer 2023/24 yn £35 am bob bin gwyrdd y flwyddyn, ac mae’r gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 4 Medi, 2023 tan ddydd Gwener, 30 Awst, 2024. Fe fyddwn ni’n parhau i adolygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

Os oeddech wedi talu ar gyfer casglu gwastraff gardd y llynedd (2022/23), bydd eich bin/biniau gwyrdd yn parhau i gael eu casglu tan 1 Medi.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Roedd yn benderfyniad anodd ei wneud ond rydym yn cynyddu ffi casglu gwastraff gardd i £35 i bob bin gwyrdd ar gyfer y flwyddyn wasanaeth nesaf. Roeddem wedi gobeithio gallu rhewi ffi’r gwasanaeth am flwyddyn arall, ond yn anffodus ni fydd hyn yn bosibl. Mae’r cynnydd yn angenrheidiol i’n caniatáu i ddarparu’r gwasanaeth ac i ddiogelu ein gwasanaethau allweddol rheng flaen. Rydym wedi ymrwymo i gadw’r ffi mor isel â phosib a bydd y ffi o £30 yn ein lleoli fel un o’r isaf os ydym yn cymharu gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr.”

Talwch ar-lein ble’n bosibl

Y ffordd orau o dalu am y gwasanaeth yw trwy fynd i wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.

Os oes unrhyw breswylwyr a fyddai’n hoffi cael cefnogaeth i wneud taliad ar-lein, yna gallant fynd i Galw Wrecsam yn Llyfrgell Wrecsam, neu gallwch alw heibio eich swyddfa ystâd tai lleol. Rhowch wybod i’n staff eich bod eisiau talu am eich casgliadau gwastraff gwyrdd a byddant yn gallu eich helpu drwy’r broses.

Mae’n rhaid i chi gael cyfeiriad e-bost i adnewyddu ar-lein. Os nad oes gennych un, gallwch ffonio’r Gwasanaethau Stryd ar 01978 298989 i wneud taliad â cherdyn.

Sticeri newydd ar gyfer 2023/24

Bydd pawb sydd yn cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd lliw coch golau, a dylid arddangos y rhain ar gaead eich bin o fis Medi ymlaen.

Gofynnwn i breswylwyr i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes bod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Daliwch i arddangos sticeri 2022/23 tan 1 Medi ac (os yw’n bosibl) ei dynnu cyn i chi roi’r sticer newydd.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes modd i ni dderbyn y math yma o daliadau.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd ddiangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Fel arall, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref. Ewch i ganllaw ‘Sut i sefydlu compostio gartref’ Cymru yn Ailgylchu sydd gyda gwybodaeth ddefnyddiol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wrexham.gov.uk/gwstraffgardd

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn… Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Erthygl nesaf canteen Newidiadau i brisiau prydau ysgol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English