Mae Wrecsam Egnïol wedi rhoi rhaglen eang o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc at ei gilydd i’w cadw nhw’n brysur dros wyliau’r Pasg.
Dydd Mawrth 12 ac 19 Ebrill
Sesiwn Bêl-droed Gynhwysol yn Ysgol Morgan Llwyd
Plant 5+ rhwng 4.30pm a 5.15pm.
Dydd Mercher 13 a 20 Ebrill.
Sesiynau Aml-chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Plant 3-6 oed 1pm – 1.45pm
Plant 7-11 oed 2pm – 3pm
Dydd Mercher 13 Ebrill.
Gymnasteg yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun
Plant 4+ 1pm – 2pm
Dydd Iau 14 a 21 Ebrill
Sesiwn Athletau yn Stadiwm Queensway
Plant o dan 8 oed 1pm – 1.45pm a 2pm – 2.45pm
Dydd Iau 21 Ebrill
Diwrnod Aml-chwaraeon Cynhwysol yn Ysgol Sant Christopher.
Plant 7-16 oed 10am – 2pm
Addas ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Dydd Gwener 22 Ebrill
Sesiynau Trampolîn yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Rhiwabon
Plant 7+ 1pm – 2pm a 2pm – 3pm
Bydd yr holl sesiynau yn cadw at ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle anfonwch neges e-bost at: activewrexham@wrexham.gov.uk