A wyddoch chi fod ein Bwrdd Gweithredol yn cwrdd unwaith y mis i wneud penderfyniadau pwysig ar ran trigolion Wrecsam? Mae’r Bwrdd fel arfer yn cwrdd ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis ac mae’r rhaglen ar gael i’r cyhoedd ychydig ddyddiau cyn hynny.
Mae croeso i chi fynychu rhannau cyhoeddus y cyfarfodydd sy’n dechrau am 10am yn Neuadd Y Dref neu mae modd i chi wylio’r cyfarfodydd yn fyw gan fod holl gyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu gweddarlledu. Os nad ydych yn gallu mynychu cyfarfod, mae modd i chi wylio’r recordiad ar-lein yn ddiweddarach.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 14 Rhagfyr ac mae’r rhaglen ar gael i’w harchwilio yma.
Mae’n gyfarfod eithaf arferol gyda nifer o eitemau i’w trafod neu benderfynu arnynt, yn cynnwys y trefniadau rheoli ar gyfer y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd, Tŷ Pawb, a’r Cynllun Adleoli Pobl Ddiamddiffyn o Syria.
Mae croeso i chi ofyn cwestiwn i’r Bwrdd Gweithredol ar yr amod eich bod yn rhoi digon o rybudd ac os ydych am gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’r Bwrdd yn debygol o’i drafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, cymrwch gipolwg ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol sydd ar gael yma.
Yn ogystal â’r Bwrdd Gweithredol, mae gennym hefyd Gyngor Llawn sydd fel arfer yn cwrdd 5 gwaith y flwyddyn i drafod yr eitemau sydd ond yn agored i’r Cyngor Llawn benderfynu arnynt, megis lefel Treth Y Cyngor.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.