Fel y mwyafrif o Gynghorau eraill, mae Wrecsam yn wynebu pwysau ariannol sylweddol, ac mae cael dau ben llinyn ynghyd yn mynd yn anodd.
Mae’n rhaid i ni wneud mwy gyda llai yn dilyn dros ddegawd o ostyngiad mewn cyllid yn ogystal â chostau uwch, chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau llog, a mwy o breswylwyr sydd angen ein cefnogaeth.
Felly, mae’n rhaid i ni ailystyried sut yr ydym yn gwneud pethau, ac mae hyn yn cynnwys ystyried ein gwasanaeth llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol.
Heddiw (Dydd Llun, 18 Tachwedd), rydym wedi lansio ymgynghoriad newydd.
A fyddech cystal â chymryd rhan… a rhoi cymorth i ni i lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau lleol.
Faint o lyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau sydd gennym?
Mae Cyngor Wrecsam yn rheoli 10 llyfrgell gangen, llyfrgell cyswllt cartref a llyfrgell dros dro, a phump o ganolfannau adnoddau cymunedol.
Mae ein gwasanaeth llyfrgell yn darparu llyfrau, adnoddau digidol, gofod astudio, a mynediad at grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed.
Mae ein canolfannau adnoddau yn darparu gofod ar gyfer grwpiau cymunedol lleol a gweithgareddau.
Rydym yn cydnabod bod llyfrgelloedd a chanolfannau yn gwneud cyfraniad sylweddol i les y rhai sy’n eu defnyddio.
Pam fod angen i bethau newid?
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Corfforaethol: “Fel Cyngor, rydym yn wynebu bwlch o tua £28 miliwn yn y gyllideb dros y ddwy flynedd nesaf, felly mae angen i ni ailystyried y gwasanaethau rydym ni’n eu darparu – a sut rydym ni’n eu darparu – os ydym ni’n mynd i ymateb i’r her hon.
“Fel rhan o hyn, mae’n rhaid i ni gyflawni arbedion gydag isafswm o £185,000 o’n cyllideb weithredol ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol.
“Nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau eto, ond mae gennym ystod o ddewisiadau yr hoffem i bobl rannu eu barn amdanynt.
“Hoffem wybod beth mae pobl yn ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth llyfrgell a’u canolfannau adnoddau yn y dyfodol, ac rydym eisiau gweithio gyda sefydliadau a chymunedau a allai fod â diddordeb mewn helpu i gynnal rhai o’r gwasanaethau hyn.
“Felly, cymerwch ran yn ein hymgynghoriad, a rhannwch eich barn a’ch syniadau – mae gwir angen eich mewnbwn arnom.”
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 19 Ionawr (2025).
Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Yn ogystal â chymryd rhan ar-lein, gallwch hefyd gasglu copïau papur o’n llyfrgelloedd a’n canolfannau adnoddau.
Gallwch hefyd alw heibio un o’n sioeau teithiol yn y lleoliadau canlynol…
18 Tachwedd
- Llyfrgell Rhos 10am-12pm
- Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Brynteg 2pm-4pm
19 Tachwedd
- Llwynmawr, Y Neuadd Oliver Jones (LL20 7BB) 10:15am-11am
20 Tachwedd
- Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt 10am-12pm
- Llyfrgell Owrtyn 2pm-4pm
- Canolfan Adnoddau Cymunedol Acton 4.30pm-6.30pm
26 Tachwedd
- Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Llai 2pm-4pm
2 Rhagfyr
- Llyfrgell y Waun 10am-12pm
- Llyfrgell Wrecsam 2pm-4pm
3 Rhagfyr
- Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Plas Pentwyn 2pm-4pm
4 Rhagfyr
- Neuadd Bentref Horseman’s Green (SY13 3DZ) 12pm-1pm
5 Rhagfyr
- Llyfrgell Cefn Mawr 3pm-5pm
6 Rhagfyr
- Llyfrgell Rhiwabon 2pm-4pm
7 Rhagfyr
- Llyfrgell Wrecsam 11am-1pm
10 Rhagfyr
- Ystafell Gymunedol Ysgol Holt (LL13 9DJ) 11:45am-1pm