Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid Cyngor Wrecsam yn gwrtais, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.
Fodd bynnag, rydym yn deall y gall nifer o’r materion rydym yn delio â nhw wneud i bobl deimlo’n angerddol neu’n bryderus, gan wneud i nifer fechan fynd yn rhy bell.
I helpu staff ddelio’n effeithio â hyn, rydym wedi diweddaru ein polisi ‘Unigolion Ymosodol, Afresymol o Daer ac/ neu Flinderus’.
Mae’r newidiadau yn ehangu cwmpas y polisi ac yn ei gwneud yn haws i ni fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol gan gwsmeriaid.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Trin pobl gyda pharch
Credwn fod gan ein cwsmeriaid yr hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Ond credwn hefyd fod gan ein staff yr un hawliau.
Felly, rydym yn disgwyl i gwsmeriaid fod yn gwrtais wrth ymdrin â’n staff, a byddwn yn cymryd camau priodol yn erbyn pobl sy’n mynd yn rhy bell.
“Ni ellir goddef ymddygiad ymosodol”
Dywedodd y Cyng. David Kelly, aelod arweiniol dros Drefniadaeth – Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae’r polisi wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer y nifer fechan o bobl sy’n ymddwyn mewn modd ymosodol, blinderus neu afresymol o daer.
“Rydym yn deall y gall rhwystredigaeth wneud i bobl ymddwyn yn groes i’r arfer ac mae ein staff wedi eu hyfforddi i ddelio â sefyllfaoedd o’r fath mewn modd sympathetig.
“Serch hynny, ni allwn oddef ymddygiad ymosodol a bydd y weithdrefn yn y polisi diweddaraf yn sicrhau ein bod yn delio ag ymddygiad o’r fath mewn modd teg a thryloyw.”
Cymerwch olwg
Gellir dod o hyd i’r polisi ar-lein
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.