Mae yna adroddiadau wedi bod yng ngogledd Cymru o bobl yn gwerthu matresi a gwlâu o gefn faniau… os ydi rhywun yn dod atoch chi yn ceisio gwerthu un mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n cael eich hudo i wneud camgymeriad mawr.
Os oes rhywun yn curo ar eich drws ac yn cynnig eitem am ffracsiwn o’r pris manwerthu arferol, fe all hynny swnio’n fargen dda… ond mae sawl rheswm pam bod hyn yn beryglus iawn.
Yn syml, dydi prynu nwyddau gan ‘ddyn efo fan’ ddim yn risg y dylech chi ei chymryd. Rydych chi’n gadael eich hun yn agored i dalu am rywbeth sy’n is-safonol, sydd heb gael ei brofi’n iawn ac, yn achos gwlâu a matresi, gall y peryglon hyn fod yn angheuol.
Peryglu bywydau
Dydi’r matresi na’r gwlâu hyn ddim fel y maen nhw’n ymddangos. Weithiau mae’r fatres a gaiff ei chynnig wedi’i gwneud o hen sbringiau ac wedi’i llenwi â defnydd budr, er ei bod yn ymddangos yn berffaith iawn o’r tu allan.
Neu efallai bod y fatres wedi’i chynhyrchu am lai na £50 yn defnyddio sbringiau sylfaenol iawn, pad ffibr polyester neu haen o sbwng rhad drostyn nhw a’r cyfan wedi’i orchuddio â defnydd rhad… hynny ydi, os ydych chi’n lwcus.
Naill ffordd neu’r llall, gallwch fod bron yn sicr nad ydyn nhw wedi’u profi i weld a ydyn nhw’n cadw at reoliadau hylosgedd matresi’r DU… ac rydym ni’n siŵr nad oes arnoch chi eisiau rhoi eich hun na’ch teulu mewn perygl angheuol fel hyn.
“Cynnyrch is-safonol o ansawdd gwael iawn”
Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Os yw galwr digroeso yn ceisio gwerthu gwely neu fatras i chi bydd y cynnyrch yn aml iawn yn is-safonol ac o ansawdd gwael iawn, ac ni fydd y fatras wedi’i phrofi yn erbyn rheoliadau hylosgedd matresi’r DU.
“Os ydyn nhw’n dweud bod gwerth y fatres yn £900 ond y cewch chi hi am £300, gall hynny swnio’n fargen ddeniadol iawn ond, mewn gwirionedd, bydd wedi’i chreu am ffracsiwn o’r pris ‘rhad’ yma. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymwybodol o sgamiau o’r fath fel na chewch chi’ch twyllo.
Credadwy iawn
Gall y bobl sy’n gwerthu’r rhain ymddangos yn gredadwy iawn hefyd – mae ganddyn nhw enw cwmni tebyg iawn i’r brandiau poblogaidd a logos sy’n ymddangos yn broffesiynol ar eu faniau a’u crysau polo – ond dydi’r cynnyrch ddim fel y mae’n ymddangos.
Os ydyn nhw’n synhwyro nad ydych chi’n sicr, byddan nhw’n ceisio eich perswadio eu bod yn gwmni dilys a’u bod yn gwerthu stoc dros ben o siop sydd wedi cau neu o archeb a gafodd ei ganslo.
Mae’n bosibl y bydd y cynnyrch wedi’i lapio mewn plastig ac yn edrych yn daclus iawn gyda labeli yn dangos y prisiau manwerthu a argymhellir, ond dydi o ddim fel y mae’n ymddangos.
Cofiwch, os ydi rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.
Os hoffech chi wneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN