Rhybuddion am wynt a glaw ledled Gogledd Cymru a fydd yn aros tan bore yfory (1.1.25).
Cynhaliwyd cyfarfod o bartneriaid aml-asiantaeth y bore ‘ma i ymateb i’r tywydd garw.
Hoffai partneriaid ledled gogledd Cymru atgoffa’r cyhoedd i gymryd gofal pan fyddant allan yn ystod y 24 awr nesaf ac i deithio dim ond os oes rhaid. Os ydych yn mentro ar y ffyrdd, arafwch a byddwch yn barod am lifogydd. Peidiwch â gyrru drwy lifogydd.
Dilynwch ddiweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan:
- Swyddfa Dywydd
- Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
- Trafnidiaeth Cymru (ffyrdd)
- Awdurdodau lleol (materion lleol)
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (diweddariadau ar dân a llifogydd)
Bydd ein timau ar ddyletswydd os oes angen i chi gysylltu â ni – os nad yw’n argyfwng gallwch gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101.