Efallai eich bod wedi gweld y sticeri ailgylchu newydd yn ymddangos ar rai biniau gwastraff y cartrefi yn Wrecsam.
Dyma’r cam nesaf yn ein hymgyrch i fod hyd yn oed yn well am ailgylchu, yn arbennig o ran ailgylchu gwastraff bwyd.
Gyda chasgliadau ailgylchu wythnosol o’ch cadi bwyd, bagiau cadi am ddim a hefyd y cadi cegin a’r cadi ymyl palmant am ddim, mae rŵan yn amser gwych i ddechrau ailgylchu gwastraff bwyd, os nad ydych eisoes yn gwneud hynny.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Ers i ni ddechrau cyflwyno’r bagiau cadi am ddim ym mis Hydref, rydym wedi gwella’n raddol, ac ym mis Ionawr 2019 ailgylchom 189.44 tunnell o wastraff bwyd! Mae hyn i’w gymharu â 170.68 tunnell ym mis Ionawr 2018, sy’n dyst i’r cynnydd da rydym wedi’i wneud.
Enghraifft arall o’r cynnydd hwn yw ein bod wedi ailgylchu 610.15 tunnell rhwng mis Hydref 2017 – Ionawr 2018, ac mewn cymhariaeth, ailgylchom 653.72 tunnell rhwng mis Hydref 2018 – Ionawr 2019 (cynnydd o 7%).
Ond rŵan hoffem ni fod yn well fyth, i helpu ni i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70% 🙂
Os oes angen cadi bwyd newydd arnoch, gallwch archebu un – AM DDIM – ar ein gwefan.
“Newyddion gwych”
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n newyddion gwych i glywed y ffigyrau ailgylchu bwyd diweddaraf, sy’n dangos fod pobl Wrecsam yn gwneud defnydd o’u bagiau cadi am ddim.
“Mae mwy a mwy o bobl yn dechrau ailgylchu eu gwastraff bwyd, ond rydym yn gwybod y gallwn wneud yn well fyth. Mae nifer o fendithion i ailgylchu eich gwastraff bwyd ac rydym eisiau annog pobl i fanteisio arnynt.”
Yn ogystal â’r bendithion amgylcheddol, drwy ailgylchu eich gwastraff bwyd, rydych hefyd yn rhyddhau gofod gwerthfawr yn eich bin du. Mae hefyd yn eich helpu i stopio’ch biniau rhag arogli o fwyd yn pydru – cofiwch fod eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, nid yw hynny’n wir am eich gwastraff cyffredinol!
Felly carwch eich sbarion bwyd a’u hailgylchu nhw. Cofiwch, rydym hefyd eisiau eich bwyd sydd wedi mynd heibio i’w ddyddiad, felly a wnewch chi ei dynnu o’i becyn yn gyntaf, a’i ailgylchu yn eich cadi.
A chofiwch – os yw eich bagiau cadi yn dechrau mynd yn brin, clymwch un gwag i handlen eich cadi ar eich diwrnod casgliadau ac mi wnawn ni adael rholyn newydd i chi…
Neu fel arall, gallwch eu casglu o’n canolfannau ailgylchu… siaradwch ag un o’r gweithwyr a gofynnwch am rolyn newydd.
Diolch 🙂
Diolch i bawb yn y fwrdeistref sirol am ein helpu ni i wella ein ffigyrau ailgylchu bwyd. Mae eich cefnogaeth barhaus i gynllun ailgylchu Wrecsam yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell: “Diolch yn fawr iawn i bobl Wrecsam am ein helpu ni i gyflawni’r ffigyrau hyn. Ac rwy’n sicr y cawn ganlyniadau gwell fyth yn y misoedd i ddod.”
Dewch i helpu Wrecsam i fod y gorau trwy Gymru!
Negeseuon atgoffa biniau
Cofiwch, gallwch hyd yn oed danysgrifio i dderbyn negeseuon atgoffa o ddyddiau casgliadau biniau, sy’n anfon e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliadau bob wythnos.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i drigolion dros y Nadolig pan mae dyddiadau casgliadau yn gallu newid!
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU