Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rŵan ‘di’ch cyfle chi i ddweud eich dweud ar wella ein hamgylchedd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rŵan ‘di’ch cyfle chi i ddweud eich dweud ar wella ein hamgylchedd
ArallY cyngor

Rŵan ‘di’ch cyfle chi i ddweud eich dweud ar wella ein hamgylchedd

Diweddarwyd diwethaf: 2020/11/19 at 12:07 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Environment
RHANNU

Mae pawb yn poeni am y sefyllfa bresennol yn sgil Covid-19 a sut fydd y feirws yn effeithio arnom ni yn ystod y gaeaf ac wrth i’r Nadolig agosáu.

Ond mae ‘na fater arall y dylem ni gadw mewn cof, sef newid hinsawdd. Dyma rywbeth sy’n effeithio ar bob un ohonom ni ac rydym ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i ddod yn sefydliad carbon niwtral.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Bydd yr hyn a wnawn ni rŵan yn gosod y sylfeini ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn lasbrint ar gyfer diogelu a gwella ein hamgylchedd byw a gweithio wrth i ni wella hen dechnoleg a datblygu technolegau newydd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Fodd bynnag, mae arnom ni angen eich cymorth chi i orffen ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio – a fydd yn ein helpu ni i roi ein cynlluniau ar waith.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn nodi’r hyn rydym ni eisoes wedi’i wneud i leihau allyriadau yn ogystal â’r pethau rydym ni’n bwriadu eu gwneud yn ystod y blynyddoedd nesaf – ac mae cyfle i chi rŵan ddweud eich dweud arnyn nhw.
Ychydig funudau yn unig ydi’r arolwg, a bydd yn ein helpu ni i sicrhau bod gennym ni gynllun cynaliadwy, effeithiol a chyraeddadwy yn ei le.

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni eisoes wedi gwneud peth wmbredd o waith i leihau ein hallyriadau carbon, gan gynnwys agor fferm solar, gosod pwyntiau gwefru ceir trydanol mewn meysydd parcio, gosod paneli solar ar stoc dai addas a’n hadeiladau ein hunain, a gwella’r amgylchedd drwy blannu coedwigoedd a dolydd blodau gwyllt ar draws y fwrdeistref.

Ond mae’n amlwg y gallwn ni wneud mwy, a dyna pam rydym ni’n annog trigolion, sefydliadau a busnesau i gymryd rhan a sicrhau ein bod ni’n gweithio ar y dewisiadau mwyaf cyraeddadwy a chynaliadwy.”

Bydd yr arolwg yn cymryd ychydig o funudau i’w lenwi, ac rydym ni’n gwerthfawrogi eich sylwadau.

Gallwch gymryd rhan yma: http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/DMart.aspx

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG

Rhannu
Erthygl flaenorol Homeless Digartrefedd a phobl ifanc – mae cymorth ar gael
Erthygl nesaf Community Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cwblhau prosiectau adfywio treftadaeth pellach yn ardal gadwraeth Canol Dinas Wrecsam

Gorffennaf 25, 2025
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd
Arall

Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd

Gorffennaf 24, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English