Byddwn yn chwifio Baner 999 ddydd Gwener, 9 Medi i hyrwyddo Diwrnod y Gwasanaethau Brys, a byddwn hefyd yn goleuo Neuadd y Dref yn las am 9pm.
Mae #Diwrnod999 yn hyrwyddo gwaith y gwasanaethau brys a sut i ddefnyddio’r gwasanaethau brys yn gyfrifol, yn addysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol i bobl ac yn hyrwyddo’r gyrfaoedd a’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yn y sector.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Y Diwrnod:
- Hyrwyddo ein harwyr 999 sydd yn ac wedi ein gwasanaethu
- Hyrwyddo gyrfaoedd a chyfleoedd gwirfoddoli ar draws y gwasanaethau brys
- Hyrwyddo defnyddio’r gwasanaethau brys yn gyfrifol
- Addysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol i’r cyhoedd
- Hyrwyddo elusennau’r gwasanaethau brys a’u gwaith
- Hyrwyddo ymgyrchoedd sy’n cael eu cynnal gan wasanaethau brys rheng flaen
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Ar ran bawb yn Wrecsam hoffaf ddiolch i bawb sy’n gwasanaethu a chyn aelodau o’r gwasanaethau brys am eu hymroddiad i’r gwasanaeth, eu dewrder a’u hangerdd am y gwaith maent yn ei wneud yma yn Wrecsam ac ar draws y wlad.”
Roedd Ian Bancroft, y Prif Weithredwr, yn adleisio’r geiriau hyn a dywedodd “Dylem i gyd gymryd ychydig funudau ddydd Llun i feddwl am beth mae’r gwasanaethau brys yn ei olygu, sut yr ydym yn dibynnu arnynt mewn sefyllfa 999 a sut y gallwn annog bawb i barchu’r gwaith maent yn ei wneud a bod yn ddiolchgar eu bod yno os byddwn eu hangen mewn argyfwng.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH