Mae rhinweddau ceir trydan yn mynd yn gynyddol boblogaidd wrth i’r dechnoleg wella ac i’r bendithion amgylcheddol – ac ariannol – ddod yn fwy amlwg.
Efallai eich bod wedi gweld ein bod wedi gosod cyfres o fannau gwefru mewn meysydd parcio ar draws y fwrdeistref sirol yn ddiweddar.
Ond yr hyn nad oes llawer yn ei wybod yw bod gennym ein fflyd fechan o bum gar trydan, a ddefnyddir gan staff.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Darganfu cymhariaeth cost ddiweddar a oedd yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cerbydau trydan a milltiroedd arferol, fod teithiau rhwng 14 Ionawr a 17 Chwefror, a allai fod wedi costio mwy na £400 mewn milltiroedd busnes, petaent yn cael eu hawlio yn ôl, ond wedi costio gwerth £23.54 o drydan.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ar adeg pan fod yn rhaid i ni wneud toriadau a chwilio am arbedion effeithlonrwydd unrhyw le y gallwn ni, mae’r ffaith y gallwn dorri yn ôl ar filltiroedd busnes diolch i geir trydan yn newyddion i’w groesawu’n fawr.
“Yn amlwg, rydym eisiau ehangu ar ein defnydd o geir trydan a sicrhau y gall staff wneud rhagor o ddefnydd ohonynt – yn ogystal â’n helpu i arbed arian, mae hefyd yn llawer gwell i’r amgylchedd.
“Er nad yw cerbydau trydan hyd yma’n gwbl ymarferol ar gyfer teithiau hirach, maent yn addas iawn ar gyfer y teithiau byr y mae angen i staff eu gwneud, ac felly gorau po fwyaf y gallwn ehangu ar hyn o fewn y cyngor.”
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU