Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (NWAS) ac rydym yn recriwtio ar gyfer naw swydd barhaol newydd yn y tîm.
Mae’r gwasanaeth yn gofalu am ardaloedd y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru ac yn ehangu i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau arbenigol i rai sy’n mabwysiadu a rhai o’r plant a’r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn y rhanbarth.
Dyma rywfaint o wybodaeth am rai o’r rolau newydd:
4 x Gweithiwr Cefnogaeth Therapiwtig i Deuluoedd
Ydych chi’n llawn ysgogiad, yn gallu gweithio o dan bwysau ac wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus? Yna efallai yr hoffech un o rolau newydd y Gweithiwr Cefnogaeth Therapiwtig i Deuluoedd.
Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd angen i chi fod yn fodlon darparu rhaglenni i deuluoedd i hyrwyddo perthnasau cadarnhaol a chryf, rhianta diogel a ffyrdd o fyw iach drwy dechnegau cwnsela a therapi amrywiol.
Os yw hyn yn apelio atoch chi, cysylltwch â ni.
1 x Cydlynydd TESSA
Bydd Cydlynydd Gwasanaeth Cefnogaeth Addysg Therapiwtig ar gyfer Mabwysiadu (TESSA) yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sy’n mabwysiadu mewn ysgolion yn cael eu cydlynu ar draws Gogledd Cymru.
Bydd y cydlynydd yn gweithio gyda’r rhai sy’n ymwneud â phlant wedi’u mabwysiadu i gynorthwyo gyda’u dealltwriaeth o ran sut mae trawma yn effeithio ar ddatblygiad plentyn a sut y gall rhianta therapiwtig wneud gwahaniaeth ar draws yr holl leoliadau y mae’r plentyn yn eu mynychu.
Ydi’r cyfle cyffrous hwn yn swydd berffaith i chi? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Cydlynydd Pobl Ifanc
Bydd y Cydlynydd Pobl Ifanc newydd yn gyfrifol am ddatblygiad Gwasanaeth Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc ar lefel ranbarthol gan weithio yn agos gyda’r Swyddog Datblygu Cenedlaethol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
Byddant yn sefydlu grwpiau cymorth sy’n addas i oedran ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu yng Ngogledd Cymru ac yn sefydlu perthnasau cadarnhaol gyda phlant wedi’u mabwysiadu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi plant a phobl ifanc naill ai ar sail un i un neu i gael mynediad at wasanaethau priodol a lle bo’r angen cynorthwyo i ddarparu elfennau unigol ac elfennau grŵp y gwasanaeth.
Efallai mai dyma’r rôl i chi? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Mae angen i ymgeiswyr fod yn barod i ymgysylltu â datblygiad proffesiynol parhaus i ymestyn eu gwybodaeth a’u profiad ym maes mabwysiadu.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thîm ymroddedig a phrofiadol gyda phwyslais cryf ar ymarfer myfyriol, hyfforddiant a datblygu ac yn derbyn cefnogaeth rheolwyr dynodedig gyda goruchwyliaeth yn rheolaidd.
Bydd gweithwyr yn elwa o:
- Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol
- Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol
- Cynllun Cymorth Gweithwyr
- Gostyngiadau a chynigion staff
- Talebau gofal plant
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cynllun Rhannu Ceir
- Mynediad at Undeb Credyd
Edrychwch ar y naw o swyddi newydd yma
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN