Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor
Pobl a lleArall

Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2025 3:23 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
JC Edwards Wall and Public Garden site
RHANNU

Dathlwyd pennod newydd yn hanes diwydiannol a diwylliannol cyfoethog Trefor yr wythnos diwethaf, gydag agoriad swyddogol Wal a Gardd Gyhoeddus JC Edwards, gofod treftadaeth a chymunedol pwysig ar gyrion Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte.

Mae’r ardd newydd yn sefyll ar safle hanesyddol hen Waith Brics a Theils JC Edwards, a oedd ar un adeg yn gyflogwr lleol mawr lle roedd cenedlaethau o bobl o Drefor a’r cyffiniau’n gweithio. Mae’r prosiect yn anrhydeddu’r hanes hwnnw wrth greu gofod cyhoeddus newydd sy’n ddeniadol ac yn hygyrch i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025 ac roedd y cynghorwyr lleol Sue Kempster a Rondo Roberts yn bresennol, ynghyd â chynghorwyr cymunedol eraill, aelodau o’r gymuned a gwesteion gwadd.

Mae Wal a Gardd Gyhoeddus JC Edwards wedi bob yn bosibl diolch i’r cyllid a sicrhawyd drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sydd wedi cefnogi’r gwaith adfywio sensitif yn y lleoliad hanesyddol pwysig hwn, gan wella’r Safle Treftadaeth y Byd ehangach wrth ddarparu cyfleoedd newydd i’r gymuned ei ddefnyddio, myfyrio a mwynhau.

Wrth siarad yn y digwyddiad, tynnodd cynrychiolwyr sylw at bwysigrwydd gwarchod treftadaeth ddiwydiannol Trefor a chydnabod y bobl a fu’n gweithio yng ngwaith JC Edwards, tra’n sicrhau bod yr ardal yn parhau i ffynnu er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Helpodd y Cynghorydd cymunedol lleol, Sue Kempster, i gydlynu’r prosiect a dywedodd “Diolch i Gyngor Wrecsam am gynnwys ein prosiect cymunedol pan wnaethon nhw gais am gyllid gan lywodraeth y DU”.

Mae’r ardd newydd yn ychwanegu at y buddsoddiad parhaus yn Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte, yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb a ariannwyd gan dîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd, ac mae’n helpu ymhellach i atgyfnerthu ei statws fel lle o arwyddocâd rhyngwladol, balchder lleol, a hanes a rennir.

Mae Wal a Gardd Gyhoeddus JC Edwards bellach ar agor i’r cyhoedd a bydd yn deyrnged barhaol i orffennol diwydiannol Trefor a’i gymuned fywiog.

Rhannu
Erthygl flaenorol Two people chatting over a cup of coffee Mae’r fenter Mannau Cynnes yn dychwelyd ledled Wrecsam yn ystod y misoedd oerach
Erthygl nesaf Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam Safonau Masnach yn dal i roi pwysau ar werthwyr tybaco a fêps anghyfreithlon yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English