Bydd Siôn Corn yn symud i mewn i’w ogof yn Tŷ Pawb gyda hyn, ac fe allwch chi fwynhau hwyl yr ŵyl gyda’ch plant bach 🙂

Mae o’n cyrraedd ddydd Sadwrn 30 Tachwedd am 11am, ac mi fydd o yma tan Noswyl Nadolig.

Amseroedd agor yr ogof yw:

• Dydd Llun – dydd Gwener, 2pm-6pm
• Dydd Sadwrn – dydd Sul a Noswyl Nadolig, 11am – 4pm

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Does dim angen archebu ymlaen llaw, ond mae angen prynu tocyn o dderbynfa Tŷ Pawb.

Y gost yw £5 y plentyn, ac mae pob plentyn yn derbyn anrheg hyfryd.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

SIGN ME UP NOW