Mae ein gwasanaethau llyfrgell yn gweithio’n anhygoel o galed i ddod ag amserlen lawn o ddigwyddiadau i’r cymunedau lleol.
Maent yn sicrhau bod amrywiaeth o sesiynau sy’n darparu ar gyfer pob oedran a diddordeb. Oeddech chi’n gwybod bod yna lawer o ddigwyddiadau am ddim y gallwch eu mynychu?
Heddiw, byddwn yn edrych ar rai o’r gweithgareddau sydd ar y gweill i chi yn llyfrgell Llai. Wedi’i leoli yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai ar Sgwâr y Farchnad, beth am alw heibio a chymryd rhan?
Pawb yn ffrindiau yma
Mae rhai pobl yn gwerthfawrogi rhywfaint o gwmni a sgwrs gyda wyneb cyfeillgar. Yn llyfrgell Llai, mae Grŵp Cyfeillgarwch wythnosol bob dydd Llun rhwng 2 pm a 4 pm ac mae am ddim.
Dyma’r ffordd ddelfrydol o wneud ffrindiau newydd neu ddal i fyny â rhai hen rai. Does dim angen cadw lle, dim ond galw heibio!
Ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis, mae Clwb Llyfrau am ddim rhwng 2pm a 3pm lle gallwch ymuno â chyd-selogion llyfrau a thrafod popeth sy’n ymwneud â llenyddiaeth. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd sydd â diddordeb cyffredin mewn darllen.
Hwyl yn ystod y tymor
Mae digon o weithgareddau i blant o bob oed drwy gydol y tymor yn llyfrgell Llai.
Bob dydd Mercher, cynhelir sesiwn Amser Stori am ddim rhwng 2.30 pm a 3 pm i’r ymwelwyr iau â’r llyfrgell. Dilynir hyn gan y Clwb Lego wythnosol 3.30 pm – 4.30 pm i blant 4+ oed.
Mae’r digwyddiadau hyn yn wych i blant ifanc ddysgu amrywiaeth o sgiliau trwy chwarae a mwynhau ag eraill.
Mae dydd Iau am 3.30 pm yn berffaith ar gyfer artistiaid ifanc uchelgeisiol wrth i’r grŵp Crefft Iau gyfarfod yn wythnosol i greu celf wych.
Fflach artistig
Nid yw’r celfyddydau ar gyfer yr ymwelwyr ifanc â’r llyfrgell yn unig. Bob dydd Gwener 1 pm – 4 pm, mae’r grŵp Crefft Oedolion yn cwrdd yn ystod y tymor.
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, fodd bynnag, mae’n rhaid cadw lle. Dylech gysylltu â’r staff i gadw eich lle ar y sesiwn.
Am ragor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd. Fel arall, gallwch ffonio llyfrgell Llai ar 01978 859020 neu e-bostio lprc@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.


