Rydym wedi gweld nifer o gwynion ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn llythyrau i’r wasg yn ddiweddar ar faint o sbwriel sydd ar ymyl yr A483.
Rydym yn gwerthfawrogi nad yw’n olygfa ddymunol – i’r trigolion nac ymwelwyr – ac o heddiw (dydd Llun, 9 Ebrill) bydd cyfres o gyfnodau cau’r lôn yn digwydd ar hyd rhannau o’r ffordd i alluogi staff i glirio ochr y ffordd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal rhwng heddiw a dydd Mawrth, 24 Ebrill.
Mae rhestr lawn o’r cyfnodau cau ar gael trwy alw llinell 24-awr Amberon ar 0845 371 5050.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Byddwn hefyd yn cynnal gwaith clirio sbwriel pellach yn y dyfodol ynghyd â gwaith cynnal a chadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.
Tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, hoffem atgoffa trigolion ac ymwelwyr i beidio taflu sbwriel o’u ceir.
“Taflwch sbwriel yn briodol os gwelwch yn dda”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “O 9 Ebrill, cesglir sbwriel ar hyd yr A483 o gylchfan Halton i ffin Sir Gaer. Byddwn hefyd yn casglu sbwriel ochr yn ochr â gwaith cynnal a chadw cylchol a drefnwyd.
Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio bod trigolion ac ymwelwyr yn gwerthfawrogi’r costau i’r cynghorau lleol wrth gasglu sbwriel, ar adeg o bwysau ariannol mawr a gofynnwn i’r cyhoedd daflu sbwriel yn briodol.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU