Mae Action Fraud wedi cael dros 3,400 o adroddiadau o negeseuon e-bost ffug yn honni i fod gan y gwasanaeth Trwydded Deledu.
Mae’r e-bost yn dweud fod Trwydded Deledu’r derbynnydd ar fin dod i ben neu fod problem gyda’u taliad diweddaraf. Ond byddwch yn wyliadwrus – mae’r dolenni a ddarperir yn arwain at wefannau sy’n edrych yn rhai gwir a ddylunnir i ddwyn manylion personol ac ariannol.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae hwn a bob twyll arall wedi eu dylunio i ddwyn un ai eich arian, neu eich manylion personol neu’r ddau.
“Mae’r twyll hwn yn edrych yn arbennig o swyddogol gan ddefnyddio logo’r gwasanaeth Trwydded Deledu ond dylech fod yn wyliadwrus bob amser o negeseuon e-bost sydd o natur swyddogol ond nad oeddech yn eu disgwyl. Dilynwch y cyngor isod a gadewch i eraill wybod amdano.”
Sut ydw i’n gwybod os yw’n dwyll ai peidio?
Bydd gohebiaeth Trwydded Deledu swyddogol yn cynnwys eich enw a/neu ran o’ch cod post yn eu negeseuon e-bost. Mae nifer o’r ymdrechion i dwyllo yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost yn unig neu ddweud ‘Annwyl Gwsmer’ felly dylid ystyried hyn bob amser.
Eu cyfeiriadau e-bost swyddogol yw donotreply@tvlicensing.co.uk neu donotreply@spp.tvlicensing.co.uk.
Os ydych yn gwsmer cerdyn talu Trwydded Deledu ac yn gwneud taliadau symudol trwy’r ap TVL Pay, efallai y byddwch yn cael negeseuon e-bost gan noreply@paypoint.com. Bydd enw’r anfonwr yn dangos fel ‘TVL Pay’.
Mae gwybodaeth ddefnyddiol iawn hefyd ynglŷn ag osgoi twyll ar eu gwefan https://www.tvlicensing.co.uk/languages/LANG1
Cofiwch ddweud ynglŷn â bob neges e-bost amheus wrth y Gwasanaeth Dweud ynghylch E-bost Amheus trwy anfon e-bost at report@phishing.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN