Caiff aelodau o’r cyhoedd eu gwahodd i seremoni gloi yr Angel Cyllyll ddydd Mercher 26 Hydref am 6pm pan fydd y cerflun yn cael ei oleuo ac anogir y cyhoedd i ddod â chanhwyllau bach batri, cannwyll neu dortsh.
Fe fydd yna rai areithiau byr wrth waelod y cerflun sy’n edrych yn wych pan fo wedi’i oleuo.
Mae’r Angel Cyllyll wedi cael croeso mawr yn Wrecsam gyda llawer o unigolion a sefydliadau yn ymweld er mwyn gweld yr Angel. Fe ddaeth rhai grwpiau sydd wedi eu heffeithio gan droseddau â chyllyll ar ymweliad arbennig i ganol y ddinas i’w weld ac roedd llawer wedi eu cyffwrdd gan ei bresenoldeb.
Mae myfyrwyr o ysgolion uwchradd a Choleg Cambria hefyd wedi ymweld a chynhaliwyd gweithdai yn ymwneud â throseddau â chyllyll ac mae’r adborth ohonynt wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae’r Angel Cyllyll yn ein gadael ni ar 1 Tachwedd i ddechrau ar ei daith i Went, ond bydd stori Wrecsam yn parhau. Gwaddol parhaus yr Angel Cyllyll fydd ymgysylltiad parhaus sefydliadau partner, gan gynnwys yr heddlu a’r gwasanaethau ieuenctid, gyda phobl ifanc er mwyn sicrhau fod y sgwrs ynglŷn â throseddau â chyllyll yn parhau’n berthnasol a phriodol.
Yng nghampws Coleg Cambria ar Ffordd y Bers mae’r gwaith yn parhau ar ein Draig Gyllyll ein hunain sydd rhyw draean o’r ffordd i gael ei chwblhau ond mae eisoes dros 2 fedr. Caiff y Ddraig ei gwneud gan ddefnyddio arfau sydd wedi eu cyflwyno’n ddiogel mewn swyddfeydd heddlu fel rhan o ymgyrchoedd amnest rhanbarthol ac fe allant yn y pen draw gynnwys cyllyll a gyflwynwyd yn ystod ymweliad yr Angel Cyllyll.
Mae disgwyl i’r ddraig gael ei chwblhau yr haf nesaf ac i ddechrau fe fydd yn cael ei harddangos yn y campws.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI