Mae ein tîm Wrecsam Egnïol wedi trefnu cyfres o sesiynau hyfforddiant wythnosol i ferched yn unig yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Queensway, yn dechrau am 6pm nos Lun, 30 Medi.
Bydd y sesiynau Cerdded i Redeg newydd yn annog y sawl sy’n cymryd rhan i fod yn heini drwy redeg a loncian, ond peidiwch â digalonni – bydd sesiynau yn dechrau drwy gerdded.
Rhedeg fel rhan o Fynd Allan Wrecsam Egnïol, Menter Cadw’n Heini sy’n anelu i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant a ffitrwydd, bydd y sesiynau Cerdded i Redeg yn cael eu cynnal am chwe wythnos o dan arweiniad hyfforddwr cymwys.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Bydd y sawl sy’n dod i’r sesiwn ar 30 Medi hefyd yn derbyn crys-t a photel dŵr am ddim.
Mae’r sesiynau am ddim.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sy’n gyfrifol am Hamdden: “Yn ogystal â chadw’n iach, gall cadw’n heini fod yn ffordd wych i wella hyder.
“Bydd y sesiynau wythnosol am ddim hyn yn rhoi cyfle i bobl nad ydynt yn arfer cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff i roi cynnig arni eu hunain – a gwella eu hiechyd o ganlyniad.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN