Mae Safonau Masnach Wrecsam yn ymwybodol o negeseuon testun twyllodrus ynglŷn â grantiau Covid-19. Mae’r negeseuon twyllodrus, sy’n honni eu bod yn cael eu hanfon gan y llywodraeth, yn cynghori pobl eu bod yn gymwys i dderbyn grant ac yn gofyn i chi ddilyn dolen i hawlio swm penodol o arian.
Sgam ydi hwn!
Byddwch yn ymwybodol o’r sgam hwn a pheidiwch â chlicio ar y ddolen.
Dyma’r neges destun rydym ni wedi’i gweld: ‘GOVUK: Due to the new lockdown circumstances you are available for a COVID-19 grant of £277.59.’ Mae’r neges wedyn yn dweud wrthych chi am glicio dolen i hawlio’r arian.
Mae’n bosibl y bydd y swm o arian a nodir yn eich neges chi yn wahanol i’r swm uchod, ond mae’n debygol o fod yn gannoedd o bunnau.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
“Ymgais i ddwyn eich gwybodaeth bersonol”
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Yn anffodus rydym ni’n gweld nifer o sgamiau sy’n ceisio gwneud elw o’r pandemig, a dyma un o’r sgamiau diweddaraf. Mae unrhyw beth sy’n dweud bod modd i chi dderbyn swm mawr o arian yn ddeniadol, ond dyma ymgais i ddwyn eich gwybodaeth bersonol.
“Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen a pheidiwch byth â datgelu’ch manylion – fel cyfrineiriau neu fanylion eich cyfrif banc. Cofiwch, mae gennych chi berffaith hawl anwybyddu negeseuon amheus. Cyn gwneud unrhyw beth, cymerwch yr amser sydd ei angen arnoch chi i ystyried ai sgam ydi hwn. Os nad ydych chi’n siŵr, cysylltwch â’r cwmni neu’r sefydliad yn uniongyrchol.”
Rhywfaint o gyngor
Mae’n bwysig iawn dilyn y tri cham hyn wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chi wario’ch arian neu ddarparu’ch gwybodaeth bersonol:
STOPIO – Gall cymryd munud neu ddwy i feddwl cyn penderfynu gwario arian neu ddarparu gwybodaeth bersonol eich cadw chi’n saff.
HERIO – Ydi’r cynnig yn un go iawn? Mae gennych chi berffaith hawl gwrthod neu anwybyddu unrhyw gais. Dim ond troseddwyr fydd yn eich rhuthro neu’n gwneud i chi ddychryn.
AMDDIFFYN – Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’ch twyllo cysylltwch â’ch banc yn syth a rhowch wybod i Action Fraud.
Adrodd am drosedd seiber
Os ydych chi’n credu eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgâm neu drosedd seiber, dylech adrodd am hyn i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw’r Canolfan Cenedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throsedd Seiber yn y DU.
Cyngor cyffredinol ar sgamiau
Gellir cael Cyngor i Ddefnyddwyr gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).
Rhybudd Safonau Masnach Wrecsam ynghylch negeseuon e-bost twyllodrus ynglŷn â Brechlyn Covid-19
CANFOD Y FFEITHIAU