Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen…….
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen…….
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen…….

Diweddarwyd diwethaf: Mai 2, 2018 4:17 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Siarad Cymraeg ac yn chwilio am brentisiaeth? Darllenwch ymlaen.......
RHANNU

Mae yna gyfle cyffrous i brentis sy’n siarad Cymraeg ymuno â’n Tîm Digidol, Brand a Chysylltiadau Cyhoeddus prysur sydd wedi ennill gwobrau.

Cynnwys
  • “Helpwch ddatblygu ein dyfodol digidol”
  • “Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol”

Rhennir y brentisiaeth yn 3 rhan a byddwch yn treulio 4 mis yn gweithio gyda’n tîm Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ac yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer ein blog newyddion sy’n eithaf arloesol ac wedi torri tir newydd o ran sut mae’r Cyngor wedi arfer cyfathrebu â’r cyhoedd.

Byddwch hefyd yn helpu i wella presenoldeb ein cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn gwrando’n ofalus iawn ar unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer datblygu ein presenoldeb digidol. Yn y tîm hwn, byddwch hefyd yn gallu helpu i drefnu a mynychu digwyddiadau, mynychu cyfarfodydd a sut i gadw cofnodion a pharatoi’n iawn ar eu cyfer.

DWEUD EICH DWEUD AM DDYFODOL TAI YN WRECSAM.

“Helpwch ddatblygu ein dyfodol digidol”

Bydd pedwar mis arall yn cael ei dreulio gyda’r tîm Digidol yn dysgu sut i greu a diweddaru gwybodaeth ddigidol ar ein gwefan a mewnrwyd. Dyma lle byddwch hefyd yn gweld sut rydym yn cyfathrebu’n ddigidol â phobl sy’n defnyddio ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu ein dyfodol digidol a sut i ddadansoddi data i ddarparu gwelliannau i’n presenoldeb digidol.

Bydd eich pedwar mis olaf gyda’n tîm Brand a Reprograffeg, lle byddwch chi’n dysgu am brosesu post sy’n dod i mewn ac allan, cynnal meddalwedd a thempledi. Byddwch hefyd yn helpu i ddarparu gwasanaeth llungopïo, argraffu digidol a gorffen. Byddwch yn cysylltu yn uniongyrchol â chleientiaid i sicrhau bod y tîm yn darparu gwasanaeth gwerthfawr a byddwch hefyd yn helpu dylunydd graffeg y tîm gyda diwygiadau i ddyluniadau a dogfennau.

“Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol”

Mae yna isafswm cymwysterau ac mae’n hanfodol eich bod chi’n siarad Cymraeg, bod gennych 5 TGAU C neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.

Bydd hyfforddiant yn rhan o’r brentisiaeth a byddwch yn astudio yn ITEC ar gyfer eich Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes ynghyd â hyfforddiant Sgiliau Hanfodol eraill. Mae yna gyfle hefyd i dderbyn hyfforddiant Stiwardio – cymhwyster gwerthfawr i unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Meddai Sue Wyn Jones, Arweinydd Brand, Digidol a Chyfathrebu ar gyfer y timau:

“Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i siaradwr Cymraeg gael eu pig i mewn i fyd modern cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol. Rydym yn dîm deinamig a rhagweithiol sydd wedi ennill gwobrau, ac fe fydd y prentis llwyddiannus yn elwa fwyaf o weithio gyda staff blaengar, profiadol a phroffesiynol. Mae popeth a wna’r tîm yn ddwyieithog felly mae’n hanfodol bod ein prentis newydd yn siarad Cymraeg.”

Diddordeb? Yna, edrychwch ar yma

Gallai’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted â mis Mehefin felly rhowch eich ceisiadau i mewn yn awr.

Y dyddiad cau yw 11 Mai 2018.

Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=612&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy “] DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Welsh Language Digwyddiad Cymraeg yn dychwelyd i ganol y dref fel rhan o FOCUS Wales
Erthygl nesaf Darganfyddwch pam mai’r digwyddiad hwn yw'r gorau yng ngogledd cymru…a sut i gael tocynnau Darganfyddwch pam mai’r digwyddiad hwn yw’r gorau yng ngogledd cymru…a sut i gael tocynnau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English