Efallai eich bod wedi clywed y newyddion da diweddar ein bod wedi sicrhau £1.52 miliwn gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun, a gaiff ei gyflawni yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ar gyfer gwelliannau sy’n canolbwyntio ar adfywio treftadaeth.
Nod Cynllun Treftadaeth Treflun yw targedu adeiladau pwysig yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam i’w hadfywio a/neu eu hadnewyddu, gyda’r bwriad o atgyweirio eu nodweddion treftadaeth mwyaf amlwg a deniadol, gan olygu bod defnydd economaidd iddynt eto.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau bellach ar gael ar gyfer perchnogion eiddo/prydleswyr (gydag o leiaf 10 mlynedd yn weddill ar y brydles) ar yr adeiladau targed yma. Bwriad y cyllid grant yw adnewyddu rhai o’r adeiladau hynaf o fewn ffiniau’r Cynllun Treftadaeth Treflun, ac adfer elfennau pensaernïol a hanesyddol yr adeiladau, a gwella’r pethau sy’n eu gwneud yn bensaernïol unigryw.
Bydd y Cynllun Treftadaeth Treflun (CTT) yn darparu cyfle ardderchog i’n gweithluoedd lleol hyfforddi ac uwchsgilio’n berthnasol trwy’r contractau sy’n cael eu darparu trwy raglen y CTT, trwy eu cysylltu gyda rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol; gan sicrhau bod gweithlu medrus yn gallu ymgymryd â’r gwaith treftadaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn y dyfodol.
Mae’r rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr ardal adfywio yng nghanol y dref ac ar gyfer crefftwyr lleol a fydd yn gallu sicrhau nad yw’r sgiliau adeiladu traddodiadol yn cael eu colli. Diolch yn fawr i’r Loteri Genedlaethol am y cyllid, ac i’r swyddogion.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch THS@wrexham.gov.uk i drefnu cyfarfod, neu drafodaeth anffurfiol.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG