Yn rhan o’n gwaith i ddatgarboneiddio ein hadeiladau a chyrraedd y targed o sero net erbyn 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus, mae cyllid pwysig wedi’i sicrhau i osod paneli solar PV ar ganolfannau hamdden yn Wrecsam.
Rydym wedi cael £180,000 o Gronfa Gydweithredu Asedau Llywodraeth Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Freedom Leisure, a gallwn bellach wneud rhywfaint o’r datblygiadau angenrheidiol yn ein cynlluniau ar gyfer datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus. Yn ychwanegol at hyn, mae £128,232 o gyllid y mae Freedom Leisure wedi’i gael o Gronfa Cyfalaf Chwaraeon Cymru.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Mae gosod paneli solar PV yn ddull arloesol, sydd yn caniatáu i ni fod yn hunangynhaliol ac yn lleihau’r ynni sy’n cael ei ddefnyddio o’r grid ar hyn o bryd yn sylweddol, gan arwain at ostyngiad mewn nwyon tŷ gwydr ac arbedion carbon.
“Mae hefyd yn galluogi cynhyrchu ynni lleol glân a chynaliadwy i’w ddefnyddio gan y canolfannau, a fydd yn gweithredu fel enghraifft weledol o newid y gellir ei ddilyn gan sefydliadau a chymunedau eraill yn Wrecsam.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Hamdden: “Rydym eisiau arwain trwy esiampl gyda’r pethau rydym ni’n ei wneud i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, felly rydym wrth ein bodd y bydd modd i ni osod paneli solar PV ar ein canolfannau hamdden yn Wrecsam. Fe fyddant yn ychwanegiad i’w groesawu a fydd yn ein helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol yn sylweddol.”
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal ar gyfer Gogledd Cymru yn Freedom Leisure: “Rydym ni wrth ein boddau i fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam ar y prosiect yma a fydd yn arbed ynni. Yn union fel y Cyngor, rydym ni’n ymroddedig i’n targedau Sero Net a lleihau effaith amgylcheddol gweithredu canolfannau hamdden.
“Mae ynni adnewyddadwy megis paneli PV solar, yn gyfansoddyn allweddol i gyflawni’r targed yma trwy gydweithio gyda’n partneriaid awdurdod lleol, yn ogystal â’n cydweithwyr a chwsmeriaid i leihau’r ynni a ddefnyddir, byddwn yn chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng byd-eang.”
Cyllid Dylunio Systemau Gwresogi Carbon Isel
Rydym hefyd wedi cael £30,000 o Grant Datblygu Systemau Gwresogi Carbon Isel o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau bod y £34,000 sydd wedi’i nodi gan CBSW yn gallu darparu gwerth gwell am arian.
Bydd y cyllid yn mynd tuag at ddatblygu dyluniadau cynhwysfawr a phriodol ar gyfer gwelliannau i’r systemau gwresogi ar bump safle sydd angen eu diweddaru. Dewiswyd y safleoedd yma ar gyfer y gwaith datblygu ar sail eu math o danwydd sydd ag allyriadau carbon uchel ar hyn o bryd, lefelau defnydd ynni a sgoriau DEC/EPC isel.
Y pum safle, a fydd â systemau gwresogi carbon yn cael eu dylunio yw:
- Depo Cludiant De Ffordd yr Abaty
- Ysgol Gynradd Eyton
- Ysgol Gynradd Gymuned Froncysyllte
- Ysgol Gynradd y Mwynglawdd
- Ysgol Cynddelw
Bydd y dyluniadau yma’n sicrhau y gallwn ni gael gafael ar gyllid pellach i weithredu systemau gwresogi gwell yn y dyfodol.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI