Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai
FideoY cyngor

Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 26, 2021 11:15 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Sicrhewch eich bod yn barod i bleidleisio ar 6 Mai
RHANNU

Gyda dim ond 10 diwrnod nes y bydd pleidleiswyr yn Wrecsam a De Clwyd yn bwrw eu pleidlais ar 6 Mai, rydym yn annog pleidleiswyr i fod yn barod i bleidleisio.

Ar draws Cymru cynhelir etholiadau’r Senedd a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae staff etholiadau wedi gweithio’n galed i sicrhau y bydd gorsafoedd pleidleisio yn lleoedd diogel i bleidleisio ar 6 Mai.  Anogir pobl sy’n pleidleisio yn y gorsafoedd i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Paratowch i bleidleisio drwy:

  • Wisgo gorchudd wyneb
  • Dod â phin ysgrifennu neu bensel gyda chi
  • Golchi eich dwylo wrth gyrraedd a gadael yr orsaf bleidleisio.
  • Cadw pellter diogel

Pleidleisio’n bersonol yng Nghymru?

Gwylia’r fideo hon i ddysgu rhagor am beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio. pic.twitter.com/aKWz6aHAIM

— Electoral Commission • Comisiwn Etholiadol (@ElectoralWales) April 22, 2021

Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Wrecsam a De Clwyd:  “Bydd eich cerdyn pleidleisio yn nodi lleoliad eich gorsaf bleidleisio.  Sicrhewch eich bod yn gwirio’r wybodaeth ar y cerdyn pleidleisio, efallai y bydd eich gorsaf bleidleisio wedi newid ers yr etholiadau diwethaf.  Nid oes angen y cerdyn pleidleisio i bleidleisio, ond rydym yn eich annog i ddod ag ef gyda chi er mwyn gwneud y broses yn gynt ac yn fwy effeithlon.

“Bydd Gorsafoedd Pleidleisio ar agor o 7am tan 10pm ddydd Iau 6 Mai.  Mae’n rhaid i bleidleiswyr sydd wedi dewis pleidlais bost ddychwelyd eu pecyn post erbyn 10pm, gallant ei gyflwyno yn yr orsaf bleidleisio os nad oes ganddynt amser i’w ddychwelyd drwy’r post”.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Os ydych chi’n pleidleisio’n bersonol, sicrhewch eich bod yn dod â gorchudd wyneb a phin ysgrifennu neu bensel gyda chi.

Yn yr orsaf bleidleisio, cadwch eich hunain ac eraill yn ddiogel drwy ddilyn y mesurau diogelwch, gan gynnwys defnyddio hylif diheintio ar eich dwylo a chadw pellter diogel oddi wrth eraill.

“Os ydych chi’n hunan-ynysu neu’n mynd yn sâl o ganlyniad i Covid-19, nid oes angen i chi golli eich pleidlais.  Bydd modd i chi wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy er mwyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy, dylai pleidleiswyr gysylltu â’r tîm cofrestru etholiadol ar 01978 292020.

I gael rhagor o wybodaeth am etholiadau yn eu hardal, gall y pleidleiswyr fynd i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr  Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn y bleidlais.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn briffio Covid-19 – tafarndai a bwytai yn ailagor ddydd Llun…mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel
Erthygl nesaf Free Swimming Mae nofio am ddim yn ôl yn ddydd Llun 3 Mai ????

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English