Mae casglu sbwriel ac ailgylchu yn ein heffeithio ni i gyd – ac mae colli casgliad bin neu ailgylchu yn taflu pawb.
Mae mân newidiadau i’r dyddiadau eleni – yn arbennig o amgylch tymor y Nadolig, gyda phreswylwyr yn arbennig yn cael eu cynghori i gadw llygad barcud ar newidiadau o Ddydd Sadwrn Rhagfyr 23, 2017 i ddydd Sadwrn, Ionawr 6 2018.
I wneud pethau’n haws ac i sicrhau na fyddwch fyth yn colli casgliad eto, pam na arwyddwch i dderbyn ein gwasanaeth Fy Niweddariadau?
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Drwy arwyddo i dderbyn y neges i atgoffa am y casgliad sbwriel ar Fy Niweddariadau, byddwch yn derbyn e-bost y diwrnod cyn eich casgliad. Ewch i http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm a rhowch eich manylion
Neu mae’r calendr casgliad sbwriel ac ailgylchu newydd 2017/18 ar gael ar-lein er mwyn i breswylwyr eu lawrlwytho.
I lawrlwytho neu argraffu eich calendr ewch i’n gwefan a theipiwch eich cod post.
Unwaith mae eich cod post wedi ei deipio, cliciwch ar eich eiddo a bydd y system yn dangos eich diwrnod casglu perthnasol a’r calendr – bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi un ai argraffu’r calendr neu ei arbed.
I’r preswylwyr hynny nad oes ganddynt fynediad i gyfleusterau ar-lein bydd nifer gyfyngedig o gopïau caled ar gael yn Swyddfa Dai Ystâd Caia, Swyddfa Dai Ystâd Broughton, Swyddfa Dai Ystâd Gwersyllt, Swyddfa Dai Ystâd Plas Madoc, Swyddfa Dai Ystâd Rhos a Chanolfan Gyswllt Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gan fod nifer gynyddol o bobl bellach ar-lein – yn arbennig gyda thwf y ffonau clyfar a thabledi – rydym am wneud yn siŵr fod preswylwyr yn ymwybodol y gallant nawr gael eu calendr gwastraff ac ailgylchu ar-lein.
“Mae’n syml i’w wneud ac ni fydd yn cymryd pum munud o’ch amser, ond gall arbed preswylwyr rhag colli casgliadau bin.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU