Wrth i ni baratoi ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ar 12 Rhagfyr, rydym yn gofyn i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Y dyddiad cau i gofrestru ydi dydd Mawrth 26 Tachwedd.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae cofrestru’n hawdd a gallwch ddefnyddio gwefan ddefnyddiol a fydd yn eich tywys trwy’r broses yn gyflym iawn. Gallwch ddod o hyd i’r wefan yma. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw’ch rhif yswiriant gwladol.
“Wedi symud tŷ’n ddiweddar neu’n rhentu’n breifat?”
Yn ôl gwaith ymchwil gan Y Comisiwn Etholiadol annibynnol, mae unigolion sydd yn symud tŷ neu wedi symud yn ddiweddar, yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r unigolion hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad am gyfnod hir. Mae 94% o unigolion, sydd wedi byw yn eu tai am dros 16 o flynyddoedd, wedi cofrestru o gymharu â 30% o unigolion sydd wedi byw yn eu cartrefi am llai na blwyddyn.
Mae rhentwyr preifat hefyd yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru o gymharu â’r unigolion hynny sy’n berchen eu tai. Mae 95% o berchnogion tai yng Nghymru ar y gofrestr etholwyr o gymharu â 51% o rentwyr preifat.
Felly i sicrhau y cewch fwrw’ch pleidlais ar 12 Rhagfyr, cofrestrwch yma .
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD