Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dod i’r amlwg ar effaith cyfyngiadau Covid-19 ar blant a phobl ifanc 0-25 oed. Mae Llywodraeth Cymru eisiau cefnogi cenhedlaeth y dyfodol gyda’u llesiant cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol dros fisoedd y gaeaf.
Mae Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Wrecsam wedi derbyn cyllid i gefnogi’r bobl ifanc hyn trwy ddarparu gweithgareddau perthnasol sy’n briodol i’w hoedran. Bydd Llyfrgell Wrecsam yn cynnal Sioe ar Daith Iechyd a Lles ddydd Sadwrn 5 Mawrth, 10.00yb – 1.00yp, lle bydd sefydliadau iechyd a lles ar gael i ddarparu gwybodaeth i blant 10-25 oed.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae darparwyr gwybodaeth yn cynnwys Cahms, Declans Den, Freedom Leisure, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, Info Shop, AVOW, MIND, Stepping Stones a mwy. Bydd cyfle i blant iau ymuno â gweithdy gydag Xplore! y ganolfan darganfod gwyddoniaeth, ynghyd â gweithgareddau bwrdd i blant iau.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Karen neu Nerys yn Llyfrgell Wrecsam ar 01978 292090.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH