Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Y cyngorBusnes ac addysg

Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: Mai 19, 2025 11:30 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
RHANNU

Ar ôl cau dau adeilad cyfagos ar Ffordd Caer fis diwethaf, cyhoeddodd Llys Ynadon Wrecsam ddau orchymyn cau arall ar gyfer adeiladau agos yn Llai ar 13 Mai. Clywodd yr ynadon fod Llay Mini Market a’r busnes drws nesaf M & B Barber, ill dau yn Corwena Stores ar Lôn Shone yn Llai, wedi’u cyhuddo o feddu ar a gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon dros gyfnod o amser.

Pan ymwelodd Swyddogion Safonau Masnach, gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru, â’r safle y diwrnod blaenorol i gyflwyno dogfennau llys, atafaelwyd rhagor o gynhyrchion anghyfreithlon gan gynnwys 6000 o sigaréts, 3kg o dybaco rholio (digon ar gyfer 3000 o roliau) a 50 o fêps. Cyfanswm y gwerth stryd a amcangyfrifir yw £2750. Mae’r ddau safle bellach wedi’u cloi a byddant ar gau am dri mis. Cafodd y cais am orchymyn cau ar gyfer trydydd safle yn Wrecsam ei ohirio am bythefnos er mwyn galluogi perchennog y busnes i fynychu’r llys, fodd bynnag, bydd y siop yn aros ar gau nes bod y mater yn dychwelyd i’r llys ddiwedd y mis.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol dros Ddiogelu’r Cyhoedd, “Mae’r nifer fawr o siopau fêps sydd wedi agor yn y ddinas yn frawychus ac mae dod o hyd am yr ail dro i gynnyrch anghyfreithlon ar safle siop barbwr yr un mor bryderus. Byddwn yn parhau i roi pwysau ar y fasnach anghyfreithlon hon am ei bod hi’n bygwth iechyd plant ac oedolion ac yn dod â throsedd i’n cymuned. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu, yn enwedig am iechyd plant ac sydd ag unrhyw wybodaeth am gyflenwi’r cynhyrchion anghyfreithlon hyn i roi gwybod amdano. Byddwn hefyd yn annog landlordiaid ac asiantau i fod yn ofalus iawn wrth gynnig rhentu neu brydlesu adeiladau manwerthu i sicrhau y bydd eu darpar denantiaid yn gweithredu’n gyfreithlon ac nad yw’n gwerthu cynnyrch anghyfreithlon. Pan fo tystiolaeth bod landlordiaid neu asiantau wedi chwarae rhan, bydd y Cyngor yn ymchwilio ac yn erlyn.

“Mae dros 5000 o bobl yng Nghymru yn marw bob blwyddyn o glefydau sy’n gysylltiedig ag ysmygu, ac mae’n lladd 1 o bob 2 defnyddiwr hirdymor. Mae mynediad hawdd at dybaco rhad yn cynyddu’r siawns y bydd plant yn datblygu caethiwed gydol oes i’r cynnyrch hynod gaethiwus hwn. Fel arfer, mae fêps anghyfreithlon yn cynnwys llawer mwy o nicotin na’r lefelau a ganiateir ac yn peri risg debyg o gaethiwed gydol oes. Oherwydd hyn byddwn yn ceisio tarfu cymaint â phosibl ar y fasnach hon drwy bob dull posib. 

Mae fêps tafladwy yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd gyda miliynau’n cael eu taflu bob blwyddyn yng Nghymru. Mae pob fêp sy’n cael ei daflu yn cynnwys plastig, cydrannau electronig, batri a hylif gweddilliol. Nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hailgylchu ac mae’r gwahanol rannau yn llygru pridd a dŵr. Mae’r rhai sy’n llwyddo i gyrraedd y system wastraff wedi achosi tanau mewn cyfleusterau ailgylchu gwastraff oherwydd y batri sydd gan bob eitem. Am y rhesymau hyn, o ddechrau mis Mehefin, bydd yn anghyfreithlon gwerthu fêps untro neu dafladwy unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Mae angen i fanwerthwyr fod yn siŵr eu bod wedi clirio unrhyw stoc o fêps tafladwy erbyn diwedd mis Mai.

Gellir rhannu gwybodaeth yn ddienw – ar-lein yn https://noifs-nobutts.co.uk/ neu dros y ffôn ar 029 2049 0621

Siop gyfleustra a siop barbwr yn Llai yn cael eu cau gan Safonau Masnach am werthu tybaco a fêps anghyfreithlon
Rhannu
Erthygl flaenorol Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol Porth Lles ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gofal Cymdeithasol
Erthygl nesaf Arolwg Chwarae Wrecsam ar gyfer Rhieni a Gofalwyr 2025 Arolwg Chwarae Wrecsam ar gyfer Rhieni a Gofalwyr 2025

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English