Yn ystod y cyfnod clo, mae staff Cyngor Wrecsam wedi gorfod gwneud gwaith sylweddol nad oedd timau o staff yn bodoli ar eu cyfer yn flaenorol. Enghraifft o hyn yw’r Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws.
Ddiwedd Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent yn ariannu lleoliadau gofal plant i rai plant oedran cyn-ysgol i weithwyr hanfodol a’r rhai oedd yn agored i niwed. Gyda dim ond wythnos o rybudd, bu i’r Tîm Atal a Datblygu Gwasanaeth roi dau dîm ynghyd, sefydlu’r cynllun gyda’r holl ddogfennaeth angenrheidiol, proses ymgeisio ar-lein a system dalu.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Staff heb fod yn gysylltiedig â gofal plant yn flaenoro
Bu i un tîm o naw staff (saith wedi eu benthyca o dimau gofal cymdeithasol eraill, nad oeddent wedi gweithio gyda gofal plant o’r blaen) brosesu’r holl geisiadau gan rieni a threfnu’r lleoliadau angenrheidiol mewn lleoliadau gofal plant i alluogi gweithwyr hanfodol i barhau i gyflawni eu swyddogaethau allweddol.
Bu i ail dîm o bump gasglu’r holl ddata, cadw cofnodion a phrosesu’r holl daliadau i sicrhau bod y lleoliadau yn digwydd yn ddidrafferth. Bu i’r staff wneud popeth posib i sicrhau bod yr holl swyddogaethau angenrheidiol yn cael eu cyflawni.
Dros 45 o leoliadau gofal plant yn cyflwyno’r cynllun
O ganlyniad i’w gwaith caled wrth roi hyn mewn lle bu i 380 o blant Wrecsam fesul wythnos gael lle am ddim (a ariannwyd), gyda dros 45 o leoliadau gofal plant yn darparu’r cynllun. Mae timau’r cyngor wedi prosesu taliadau sydd wedi arbed dros £500,000 i weithwyr hanfodol Wrecsam mewn costau gofal plant.
Roedd rhaid i’r staff ddysgu eu swyddogaethau newydd yn sydyn iawn. Bu iddynt oll weithio’n galed iawn a chydweithio yn wych trwy gydol y pandemig a chyflwyno’r cynllun llwyddiannus hwn i wasanaethu cymunedau yn Wrecsam.
Mae bob rhan o’r cynllun yn bwysig i wneud iddo weithio: rheolaeth gymwys, gwneud penderfyniadau da, cadw cofnodion cywir a thaliadau sydyn a chywir.
“Cyflawniad ffantastig”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson: “Mae’r holl staff yn haeddu diolch a chydnabyddiaeth am gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn yn sydyn ac yn effeithlon – mae bob rhan wedi bod yn ardderchog. Beth sydd hyd yn oed yn fwy gwych yw bod y staff i gyd bron yn gweithio o gartref, gyda rhai yn gofalu am, ac y rhan fwyaf o’r amser yn addysgu eu plant yr un pryd!
“Mae hyn yn gyflawniad gwych ac yn dyst i ymrwymiad, ymroddiad, y gallu i addasu a gallu aelodau staff a rheolwyr y cyngor. Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig wrth sicrhau bod y plant yn aros yn ddiogel mewn gofal plant o safon tra hefyd yn caniatáu i weithwyr hanfodol fynd i weithio i wneud eu swyddogaethau hanfodol.”
Sut i gael prawf
YMGEISIWCH RŴAN