Pan fyddwch yn mynd i wneud eich siopa wythnosol, ydych chi’n meddwl am sut y byddwch yn storio’r bwyd yr ydych yn ei brynu ar ôl dod adref? Mae storio eich bwyd yn ddiogel yn bwysig iawn i’ch iechyd a iechyd eich teulu, ac mae’n ffordd dda o osgoi gwastraff bwyd heb angen.
Yn dilyn ein Harolwg Gwastraff Bwyd, sydd wedi cael ei llenwi gan dros 1,850 o breswylwyr, roedd 45% o bobl wedi dweud wrthym fod eu bwyd wedi mynd yn hen cyn eu dyddiadau defnydd/ dyddiad ar ei orau cyn.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Yn ogystal â hyn, dywedodd llai na 35% nad oedd pawb yn eu haelwyd yn bwyta eu holl prydau, bod dros 15% yn coginio gormod, a bod dros 15% yn dweud bod aelodau o’r teulu yn newid eu cynlluniau (h.y. ddim yn cael swper).
Yn sicr felly mae digon o le i wella.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell: “Mae meddwl am bethau fel tymheredd, y deunyddiau gwahanol y gallwch gadw eich bwyd, a meddwl os ellir rhewi bwyd bob amser yn ffyrdd a fydd yn eich helpu i gadw’n ddiogel a sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’ch eitemau bwyd. Does neb eisiau lluchio bwyd ar ôl talu arian da amdanynt, felly mae’n syniad da i geisio deall y ffyrdd orau i storio’r mathau gwahanol o fwyd yr ydych yn ei brynu i osgoi gwastraff.”
Cadw bwyd yn eich oergell
Os yw’r label yn dweud ‘keep refrigerated’, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r bwyd yn yr oergell! Os nad yw’r bwyd wedi’i labelu gydag unrhyw gyfarwyddiadau storio, ac mae’n fath o fwyd sy’n mynd yn hen yn gyflym, dylech ei roi yn yr oergell a’i fwyta o fewn dau ddiwrnod.
Mae angen cadw rhai jariau neu foteli yn yr oergell ar ôl eu hagor hefyd… edrychwch ar y label a dilynwch y cyfarwyddiadau storio.
Awgrymiadau eraill i storio bwyd yn eich oergell:
- wrth baratoi bwyd, peidiwch â gadael y bwyd allan o’r oergell am amser rhy hir, yn arbennig os yw’r tywydd neu’r ystafell yn gynnes
- os ydych wedi gwneud bwyd (megis brechdan neu bryd oer) ac nid ydych am ei fwyta yn syth, cadwch nhw yn yr oergell tan y byddwch yn barod i’w fwyta
- os ydych yn cael parti neu’n gwneud bwffe, gadewch y bwyd yn yr oergell tan fydd pobl yn barod i fwyta (ni ddylech adael bwyd y tu allan i’r oergell am fwy na phedair awr)
- oerwch sbarion mor gyflym â phosib (o fewn dwy awr os yw’n bosib) ac yna eu storio yn yr oergell
- bwytwch unrhyw sbarion o fewn dau ddiwrnod, ar wahân i reis sydd wedi’i goginio, dylech ei fwyta o fewn un diwrnod i osgoi cael gwenwyn bwyd.
Cig
Mae’n bwysig storio cig yn ddiogel i stopio bacteria rhag lledaenu ac i osgoi gwenwyn bwyd. Dylech:
- storio cig amrwd a dofednod mewn cynwysyddion wedi selio sy’n lân ac wedi selio ar y silff gwaelod yr oergell, fel nad ydynt yn cyffwrdd na diferu ar fwyd arall.
- Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label a pheidiwch â bwyta cig ar ôl y dyddiad defnydd.
- pan fyddwch wedi coginio cig ond ddim am ei fwyta’n syth, oerwch mor gyflym â phosib ac yna ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell.
- cadwch gig wedi’i goginio ar wahân i gig amrwd.
Rhewi bwyd
Gallwch gadw bwyd yn ddiogel yn y rhewgell am flynyddoedd, cyhyd â’i fod yn aros wedi rhewi drwy’r amser Ond mae blas a gwead bwyd yn newid os bydd yn cael ei rewi am amser hir, felly efallai byddwch yn teimlo nad yw’n neis iawn i’w fwyta.
Gallwch wirio unrhyw gyfarwyddiadau ar labeli bwyd neu yn llawlyfr eich rhewgell (os nad oes gennych hwn mwyach yna efallai gallwch ddod o hyd iddo ar-lein) i weld pa mor hir y dylai bwyd gael ei rewi.
Mae’n ddiogel rhewi y rhan fwyaf o fwydydd amrwd neu wedi’u coginio, os ydych wedi:
- ei rewi cyn dyddiad ‘defnyddio’
- yn dilyn cyfarwyddiadau rhewi neu ddadrewi sydd ar y label
- ei dadrewi yn yr oergell fel nad yw’n gor-gynhesu, neu os ydych yn bwriadu ei goginio yn syth ar ôl ei dadrewi, gallwch ei ddadrewi yn y microdon.
- ceisio defnyddio o fewn un neu ddau ddiwrnod ar ôl ei ddad-rewi – bydd yn mynd yn hen yr un ffordd petai’n fwyd ffres
- coginiwch fwyd nes y bydd yn boeth iawn drwyddo i gyd
Pan fydd cig a physgod wedi’u rhewi (a rhai bwydydd eraill) yn dadrewi, mae llawer o hylif yn dod allan ohonynt. Os ydych yn dad-rewi cig neu bysgodyn amrwd, bydd yr hylif hwn yn lledaenu bacteria i unrhyw fwyd, platiau neu arwynebedd y mae’n ei gyffwrdd. Cadwch gig amrwd a physgod mewn cynwysyddion wedi selio sy’n lân ac wedi selio ar y silff gwaelod yr oergell, fel nad ydynt yn cyffwrdd na diferu ar fwyd arall.
Golchwch blatiau, llestri, arwynebedd a dwylo yn drylwyr, ar ôl iddynt gyffwrdd cig amrwd neu gig sydd yn dadrewi, i atal bacteria rhag lledaenu.
Os ydych yn dadrewi cig neu bysgod ac yna eu coginio’n drwyadl, gallwch eu rhewi eto, ond cofiwch peidiwch ag ailgynhesu bwyd mwy nag unwaith.
Gwybodaeth ddefnyddiol? Bydd Rhan 2 yn dod yfory.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH