Mae’r Noson Gomedi’n dychwelyd ddydd Gwener, 6 Medi, am noson o gomedi stand-yp gan rai o gomedïwyr teithiol gorau’r DU!
Seren y sioe fydd Harry Stachini, yn agor y noson fydd Freddie Farrell, ac yna Gill Gee a Harry Jenkins, gyda Kevin Caswell-Jones yn arwain. Mae’n argoeli i fod yn noson llawn hwyl a chwerthin!
Bydd y bar a’r Neuadd Fwyd hefyd yn agored.
Mae’r noson arbennig hon wedi ei threfnu mewn partneriaeth â Gŵyl Gomedi Wrecsam 2024, a gynhelir yn Neuadd William Aston.
Tocynnau’r Noson Gomedi:
£11, ar gael ar eventbrite
Drysau’n agor: 7.30pm
Perfformiwr cyntaf: 8.00pm
Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn chwilio am wneuthurwyr! Pobl greadigol – mae arnom ni eich angen chi!