Y Cynghorydd David Griffiths – Cefnogwr y Lluoedd Arfog – Cyngor Wrecsam
Saith deg pum mlynedd yn ôl, cafwyd heddwch ar draws Ewrop ar ôl bron i chwe blynedd o ryfela ffyrnig.
I’r mwyafrif ohonom, mae’n anodd dychmygu sut deimlad oedd hynny.
Yn ogystal â’r anafiadau, marwolaethau a dioddefaint a ddioddefwyd ar faes y gad, mewn dinasoedd a ddinistriwyd gan y bomiau, mewn getoau a gwersylloedd carchardai, roedd yna galedi emosiynol, cymdeithasol ac economaidd ym mhob cymuned.
Bu farw anwyliaid pobl. Gwaethygodd iechyd pobl. Diflannodd swyddfeydd a gyrfaoedd addawol. Collodd nifer o bobl eu cartrefi. Roedd bwyd a dillad yn brin. Roedd yn ‘normal newydd’.
Felly dychmygwch y teimlad – am 2.45pm ar 8 Mai yn 1945 – pan gyhoeddodd Winston Churchill fod Yr Almaen wedi ildio.
Roedd yr hunllef yn Ewrop drosodd o’r diwedd, ac mae’n rhaid ei fod yn foment anhygoel o orfoledd a rhyddhad.
Mae’n rhaid ei fod yn amser trist iawn hefyd. Roedd hi’n amlwg fod cymaint o bobl wedi colli eu dyfodol…nid oedd modd iddynt fyw y bywyd y dylent fod wedi’i fyw.
Er bod y niferoedd yn lleihau’r dyddiau hyn, mae yna rhai o’n plith a fu’n byw drwy’r rhyfel.
Cyn-filwyr a fu’n gwasanaethau yn y lluoedd arfog, pobl a fu’n cynnal y wlad nôl gartref, a’r rhai oedd yn blant a dyfodd i fyny yn ystod y blynyddoedd hynny.
Mae arnom ni gymaint o ddiolch a pharch i’r bobl yma, a’r rhai sydd wedi’n gadael ni…gymaint mwy nag y gallwn ni ei ad-dalu.
A rŵan, yn fwy nag erioed, fe allwn ni gael ein hysbrydoli gan yr hyn y gwnaethon nhw.
Helpu Wrecsam i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop
Mae un o’r heriau mwyaf mewn hanes y mae’r wlad wedi ei wynebu – pandemig Covid-19 wedi ein hatal rhag nodi 75 mlynedd ers y diwrnod hwnnw yn y modd yr oeddem wedi’i obeithio.
Mae parti strydoedd a digwyddiadau cyhoeddus ledled y DU wedi cael eu canslo, ac yma yn Wrecsam bu’n rhaid i ni ganslo cynlluniau i nodi’r achlysur mewn steil…dod ag awyren Spitfire i Llwyn Isaf.
Ond nid yw hynny’n golygu na allwn ni ddangos ein parch a’n cefnogaeth i’n lluoedd arfog…tra’n parhau i aros adref, achub bywydau ac amddiffyn y GIG.
Felly os gwelwch yn dda…helpwch Wrecsam i nodi’r achlysur pwysig iawn.
Dyma rywfaint o syniadau ynglŷn â sut i ddathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop o ddiogelwch eich cartref.
10 ffordd i ddathlu gartref…
1. Cymryd rhan mewn dau funud o dawelwch (11am)
Fe fydd yna ddau funud o dawelwch ar draws y wlad am 11am i gofio’r rhai a aberthodd eu bywydau neu fu’n byw drwy’r rhyfel.
Bydd nifer ohonom yng Nghyngor Wrecsam yn cymryd rhan. Cymerwch ran os allwch chi.
2. Cynnal parti â thema Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gydag aelodau o’ch aelwyd
Mae Llywodraeth Y DU wedi creu canllaw defnyddiol a hwyliog, sydd yn cynnwys ryseitiau, gemau, posteri, byntin a gweithgareddau creadigol eraill!
3. Ymunwch â ffrwd byw Y Lleng Brydeinig Frenhinol (11.15am)
Ewch i wneud paned o de ac ymunwch a’r Lleng am ddarllediad ffrwd byw 80 munud o hyd – rhannu straeon ac atgofion gan y rhai a wasanaethodd ac a aberthodd yn ystod y rhyfel, yn ogystal â chydnabod anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu heddiw.
4. Dysgu’r Lindi Hop (12pm)
Dysgwch y Lindi Hop gyda gwers dawns fyw English Heritage. Bydd Nancy Hitzig yn eich helpu i ddysgu’r ddawns oedd yn boblogaidd yn ystod y rhyfel. Cofrestrwch rŵan!
5. Gweddnewidiad o’r 1940au (2pm)
Mwynhewch weddnewidiad wedi’i ysbrydoli o gyfnod yr ail ryfel byd gyda thiwtorial ar-lein gan English Heritage!
6. Gwrandewch ar anerchiad Winston Churchill (3pm)
Gwrandewch ar anerchiad gwreiddiol Churchill i’r wlad sy’n cael ei ddarlledu ar y BBC am 3pm ddydd Gwener. Felly, codwch wydr neu baned i nodi’r achlysur!
7. Ewch ar wefan Amgueddfa Ryfel Imperialaidd
Yng Nghanolfan Fuddugoliaeth yr Amgueddfa mae cynnwys diddorol iawn am ddigwyddiadau haf 1945 a thu hwnt – yn cynnwys casgliadau personol am Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gan y bobl oedd yno.
8. Gwyliwch yr hanesydd Dan Snow (4pm)
Gwyliwch YouTube yn fyw wrth i Dan Snow ein tywys drwy’r digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd yn 1945.
9. Gwyliwch neges Y Frenhines ar y teledu (9pm)
Bydd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn annerch y genedl am 9pm – yr union adeg y rhoddodd ei thad, Brenin George VI, anerchiad ar y radio yn 1945.
10. Cymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’
Ymunwch â’ch cymdogion ar stepen eich drws i gymryd rhan mewn ymgyrch genedlaethol i gyd-ganu ‘We’ll Meet Again’.
Arhoswch gartref
Gobeithio y bydd rhai o’r syniadau yma yn eich ysgogi i helpu Wrecsam a gweddill y DU i ddathlu dydd Gwener.
Meddyliwch am y rhai a aberthodd eu bywydau, dysgwch gan y rhai a fu’n byw drwy’r cyfan, ac ewch at i gael hwyl!
A chofiwch…
Aros gartref. Achub bywydau. Amddiffyn y GIG.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19