Mae’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Affganistan yn ddiweddar wedi ein syfrdanu a pheri pryder i ni i gyd, yn enwedig trafferthion y rhai sy’n cyrraedd y DU dan Raglen Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP).
Mae rhaglen ARAP wedi’i hanelu’n benodol at wladolion Affgan y byddai eu bywydau nhw a bywydau eu teuluoedd mewn perygl uniongyrchol oherwydd eu gwasanaethau i Lywodraeth y DU a Lluoedd Arfog Prydain yn ystod eu cyfnod yn Affganistan.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Yn Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i ddarparu lloches ddiogel a chroeso cynnes i hyd at 10 o deuluoedd.
Mae gan Wrecsam draddodiad hir o gefnogi a chroesawu’r rhai sy’n ceisio lloches, gan ddyddio’n ôl i’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gyda’n cymuned Bwylaidd yn Llannerch Banna. Mae wedi bod yn ardal wasgaru i bobl sy’n ceisio lloches ers sawl blwyddyn ac yn fwy diweddar, mae hefyd wedi gweithredu Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn Syriaidd. O ganlyniad, mae’r Cyngor a sefydliadau’r trydydd sector yn barod i ddiwallu eu hanghenion wrth iddynt gyrraedd, a chynorthwyo’r rhai sy’n dechrau eu bywydau yng Nghymru ac addasu i fyw mewn diwylliant sy’n wahanol iawn i’w diwylliant eu hunain.
Rydym yn parhau i weithio gyda’r trydydd sector gan gynnwys y darparwr cymorth gwaith achos, y Groes Goch Brydeinig, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) a sefydliadau cefnogi ffoaduriaid i ganfod beth yw’r union anghenion wrth i deuluoedd gyrraedd.
Mae angen hefyd am eiddo hunangynhwysol i deuluoedd yn ardal Wrecsam, ac rydym yn apelio’n uniongyrchol ar landlordiaid sy’n gallu helpu i gysylltu â locallettings@wrexham.gov.uk i drafod ymhellach.
Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Yn ddealladwy, mae pobl wedi bod yn awyddus i gynnig cefnogaeth i’r rhai a fydd yn cyrraedd Wrecsam a mannau eraill dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf ac mae haelioni pawb wedi gwneud argraff fawr arnom.
“Er bydd angen am eitemau penodol ym mhen yr hir a’r hwyr, byddem yn annog unrhyw un sydd am gynnig cyfrannu i wneud hynny trwy elusennau a sefydliadau lleol sy’n gallu sicrhau eu bod yn cyrraedd y bobl sydd eu hangen, gan gynnwys pobl sydd wedi’u hadsefydlu o Affganistan.”
Mae nifer o sefydliadau ac elusennau cefnogi ffoaduriaid sy’n derbyn a chydlynu cyfraniadau i bobl sy’n ceisio lloches. Gall gweithwyr achos wneud cais am eitemau penodol ganddynt; y mathau o bethau sy’n helpu i droi tŷ yn gartref. Yna gellir paru cyfraniadau’n uniongyrchol â theuluoedd. Mae rhai o’r elusennau wedi’u rhestru isod:
Mae UAREUK (United to Assist Refugees UK) yn elusen (rhif cofrestredig 1169738) sy’n gweithio’n agos iawn gyda’r Groes Goch Brydeinig a sefydliadau eraill i gefnogi teuluoedd yn Wrecsam, ac maen nhw hefyd yn darparu cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn gwledydd eraill.
Mae ganddynt grŵp Facebook maen nhw’n ei ddefnyddio i wneud ceisiadau penodol am eitemau a gall unrhyw un sydd am helpu fel hyn wneud cais i fod yn aelod o’u grŵp a chael y wybodaeth ddiweddaraf o ran beth sydd ei angen a lle gellir mynd â phethau. Ar gyfer cyfraniadau cyffredinol, gellir gweld rhestr bresennol UAREUK o beth sydd ei angen ar eu tudalen Facebook yn www.facebook.com/groups/uareuk. Mae eu gwefan, www.uareuk.com, yn cynnig ffordd o gyfrannu trwy weithgareddau codi arian wedi’u trefnu.
Mae Refugee Kindness – North Wales yn elusen (rhif cofrestredig 1192930) sy’n cynnig cefnogaeth i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl eraill sydd mewn angen tebyg ar draws rhanbarth Gogledd Cymru. Maen nhw’n disgrifio eu hunain fel: hwyluso cyfraniad eitemau cartref, dillad ac eitemau eraill i’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi yn ogystal â chynnig caredigrwydd yn gyffredinol ar ffurf cyfeillio, cynnig arweiniad a chyfeirio.
Mae Refugee Kindness – North Wales yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth. Gellir cysylltu â Refugee Kindness – North Wales trwy info@refugeekindness.org neu trwy anfon neges trwy’r dudalen Facebook ar https://www.facebook.com/RefugeeKindness.
Mae SHARE yn elusen (rhif cofrestredig 1166530) sy’n seiliedig yn yr Wyddgrug a Chaer sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn lleol a rhyngwladol. Maen nhw hefyd yn cwmpasu ardal Wrecsam gan weithio’n agos gyda’r Groes Goch Brydeinig a sefydliadau eraill i gefnogi teuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn Wrecsam.
Nid ydynt yn derbyn cyfraniadau cyffredinol ar hyn o bryd oherwydd faint o eitemau sydd ganddynt eisoes, fodd bynnag, mae eu tudalennau Facebook a’u gwefan yn rhestru ffyrdd eraill i bobl gyfrannu a chynnig cefnogaeth:
Gwefan: https://shareaid.co.uk/collections/project-donations/products/assisting-refugees-in-the-uk
Facebook: https://www.facebook.com/RefugeeHomelessAid/
Fel ffordd arall o helpu, gallech ystyried cyfrannu eich amser fel gwirfoddolwr gydag elusen.
Meddai John Gallanders, Prif Swyddog AVOW, “Er mwyn cynorthwyo â chefnogi’r sefydliadau hyn sy’n cynnig cefnogaeth yn lleol, mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn aml i bobl sydd ag amser i’w gynnig i helpu eraill. Rydym yn argymell bod unigolion yn cysylltu’n uniongyrchol â’r cysylltiadau uchod, neu’n edrych ar www.volunteering-wales.net lle byddwch chi’n gweld rhestr o amrywiaeth o gyfleoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn cael eu paru â sefydliadau pan fo angen”, neu gallwch anfon e-bost at volunteer.centre@avow.org neu ffonio 01978 312556.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL