‘Os ydych am gyrraedd unrhyw le mewn bywyd, rhaid i chi ddarllen llawer o lyfrau’ Roald Dahl
Ni allem fod wedi dweud hyn yn well ein hunain!
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod oedran darllen plant yn tueddu i ostwng dros wyliau’r haf, dyma ffordd syml i gynnal neu wella perfformiad darllen eich plentyn!
Am y 18fed flwyddyn yn olynol, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn dod i’ch llyfrgell leol ac eleni, bydd Asiantwyr Anifeiliaid yn dod hefyd!
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r digwyddiad am ddim hwn yn herio’ch plentyn i ddarllen chwe llyfr yn ystod gwyliau’r haf ac ymweld â’r llyfrgell o leiaf deirgwaith. Bob tro byddant yn mynd i’r llyfrgell, byddant yn cael gwobrau am y llyfrau maent wedi eu darllen hyd yma gyda medal fel y wobr olaf!
Gall unrhyw blentyn ysgol gynradd gymryd rhan, y cyfan mae angen iddynt ei wneud yw ymuno â’r llyfrgell (dim ond prawf o gyfeiriad sydd ei angen arnynt, a dyna ni!) ac oeddech chi’n gwybod, os yw eich plentyn ym Mlwyddyn 4 ac yn byw yng Nghymru, eu bod yn aelod yn awtomatig? Gofynnwch yn ysgol eich plentyn neu yn eich llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth am fenter Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell!
Mae hefyd llawer o bethau i’w gwneud ar-lein er mwyn i’ch plentyn gael mwy o’r sialens. Yn summerreadingchallenge.org.uk gall eich plentyn chwarae gemau, rhoi cynnig ar gystadlaethau, defnyddio’r adnodd didoli llyfrau i ddod o hyd i lyfrau newydd i’w darllen, a sgwrsio am y llyfrau rydych wedi eu darllen.
Felly, pwy sydd wedi peintio’r graffiti ar wal y llyfrgell? Pam mae pethau’n mynd ar goll? Am beth ydyn ni’n sôn? Ymunwch â Sialens Ddarllen yr Haf i gael gwybod…!
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI