Permits

A oeddech yn gwybod eich bod angen trwydded i gyflogi pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed?

Sut allaf gael trwydded?

Mae trwyddedau cyflogaeth yn benodol i’r plentyn, y cyflogwr, y lleoliad gwaith a’r math o waith a’r oriau gwaith. Os oes gan blentyn fwy nag un swydd byddant angen trwydded ar gyfer pob swydd.

Mae trwyddedau cyflogaeth yn dibynnu ar ble fydd y plentyn yn gweithio nid prif swyddfa’r cyflogwr.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

I wneud cais am drwydded gyflogaeth i blentyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen ynghyd â;

  • Asesiad risg yn ymwneud â’r gweithgareddau a drefnwyd ar gyfer yr unigolyn ifanc
  • Copïau o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a phersonol y cyflogwr
  • 2 lun math pasbort o’r plentyn

I gael trwydded cysylltwch â y tîm Cyflogaeth Plant ar child_employment@wrexham.gov.uk neu ar 01978 – 268140

Dyma ychydig o gyngor defnyddiol ynghylch cyflogi Pobl ifanc:

  • Yn ôl y gyfraith ni ellir cyflogi plentyn o dan 13 oed
  • Gellir gwneud cais am drwydded ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 13 oed.
  • Gall plant ond cael eu cyflogi mewn mathau penodol o waith
  • Ni all unrhyw blentyn weithio ar unrhyw adeg rhwng 7pm a 7am.
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol.
  • Mae’n rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael egwyl am o leiaf 1 awr.
  • Caniateir oriau gwaith gwahanol i bobl ifanc 13/14 oed a 15/16 oed.
  • Ni all plentyn weithio mwy na 2 awr ar ddydd Sul.

Dirwyon a chosbau

Os nad ydych yn cael trwydded waith ar gyfer plentyn rydych yn ei gyflogi, mae’n bosib y cewch ddirwy o hyd at £1,000.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH